Swyddog Datblygu
Swyddog Datblygu
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Swyddog i ddatblygu a hyrwyddo gwaith y Gymdeithas ac i ddarparu cefnogaeth a chyngor i eisteddfodau lleol.
Disgrifiad:
Swyddog Datblygu
Dewch i weithio i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru
Rydym yn chwilio am Swyddog i ddatblygu a hyrwyddo gwaith y Gymdeithas ac i ddarparu cefnogaeth a chyngor i eisteddfodau lleol.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod â diddordeb amlwg yn y diwylliant eisteddfodol ac yn unigolyn trefnus, brwdfrydig a blaengar.
Bydd y swyddog yn cydweithio gyda’r Swyddog Cyfathrebu.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd.
Rhan amser: 24 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Cyflog: Hyd at uchafswm o £25,780 pro rata yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Dyddiad cau: 21/07/25
I gael pecyn cais a mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Bill Davies (Is-Gadeirydd), 02922 211407 / billd.d2@tiscali.co.uk
neu Lois Williams (Swyddog Cyfathrebu) lois@steddfota.cymru
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *