Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Datblygu

Swyddog Datblygu

Trosolwg:

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardalBrycheiniog a Maesyfed. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a gwerthuso gweithgareddau amrywiolar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff mewnol ac allanol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Menter Brycheiniog a Maesyfed​
Cyflog: £27,269 i £28,624 y flwyddyn 
Dyddiad Cau: 11/05/2025
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: I’w drafod
Disgrifiad:

Swyddog Datblygu Menter Brycheiniog a Maesyfed​

£27,269 i £28,624 y flwyddyn

37 awr, Cyfnod penodol tan 31/03/2026 (yn y lle cyntaf)

Lleoliad/Canolfan Waith: Yw drafod

Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Dyddiad cau: 11/05/2025

Am y rôl:

Y mae Menter Brycheiniog a Maesyfed yn wasanaeth sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd a’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiaucymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector.

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardalBrycheiniog a Maesyfed. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a gwerthuso gweithgareddau amrywiolar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff mewnol ac allanol.

Amdanoch chi:

Profiad:

• Profiad o waith datblygu cymunedol neu waith plant / ieuenctid

• Rheoli prosiect

• Trefnu digwyddiadau

• Rheoli cyllideb

• Profiad o gynllunio ieithyddol

Eich dyletswyddau:

1. Arwain rhaglen waith ieuenctid Menter Brycheiniog a Maesyfed er mwyn cynyddu’r cyfleoeddiaith Gymraeg i bobl ifanc yn Ne Powys. Yn gyfrifol am gynllunio a datblygu’r rhaglen hyd at flwyddyn o flaen llaw er mwyn cyrraedd y nifer gorau posib. Trefnu rhaglen waith wythnosol a misol eu hun. 

2. Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ne Powys a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws meysyddgwaith Plant a Phobl Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau drwy ystyried gwaith ymchwil syddeisoes wedi’i wneud yn y maes ac ymchwilio ymhellach i’r anghenion yn ôl gweithgareddau, lleoliadau, deunyddiau, a phlant ail-iaith. Ymgysylltu a chadw cyswllt ag ysgolion a gosodiadau gwaith ieuenctid er mwyn trefnu a chynnal sesiynau rheolaidd.

3. Cynllunio a darparu gweithgareddau amrywiol o fewn y sir gan sicrhau dosraniad teg o ran math o weithgaredd, oed y defnyddiwr, lleoliadau amrywiol a daearyddiaeth y sir, a marchnata’r gweithgareddau yma mewn modd addas.

4. Rheoli cyllid Plant a Phobl Ifanc er mwyn sicrhau darpariaeth deg a gwerth arian ar draw De Powys. Chwilio a cheisio cyllid ychwanegol lle’n bosib i ehangu potensial y rhaglen waithieuenctid. 

5. Cydlynu, hyrwyddo a datblygu gwasanaethau Cymraeg i blant, ieuenctid ac oedolion mewncyd-destun mwy eang mewn cydweithrediad â mudiadau eraill.

6. Casglu tystiolaeth am weithgareddau a pharatoi adroddiadau a phapurau yn ôl y gofyn gangynnwys adroddiadau cynnydd ar gyfer Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru o dan bennawd ‘Plant a Phobl Ifanc’.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Trefnydd Ymgyrchu Penybont Bro Morgannwg ac Afan Ogwr Rhondda

Swyddog Prosiect (Powys a Ceredigion)

Pennaeth Cyllid