Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Datblygu
Swyddog Datblygu
Trosolwg:
Mae Nerth dy Ben yn chwilio am unigolyn trefnus, creadigol a brwdfrydig i fod yn rhan allweddol o ddatblygiad y cwmni a bod yn gyfrifol am waith dydd i ddydd wrth gydlynu a gwireddu'r cynllun busnes ac ymgysylltu efo rhanddeiliaid a phartneriaid.
Disgrifiad:
Wyt ti’n berson sydd:
- â diddordeb mewn helpu unigolion a chymunedau
- yn llawn syniadau creadigol
- yn drefnus
- eisiau helpu datblygiad Nerth dy Ben
Os felly, ymgeisia am swydd Swyddog Datblygu gyda Nerth dy Ben.
Sefydlwyd Nerth dy Ben ym mis Chwefror 2021 fel gweithgaredd peilot i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ynghylch nerth a dylanwad y meddwl ar ein bywydau pob dydd yng nghefn gwlad. Mae ymateb y gymuned i weithgaredd a fformat Nerth dy Ben wedi dangos bod yna alw a’r angen am weithgarwch a sgyrsiau sy’n buddsoddi yn ein hyder ni fel unigolion a dathlu ein cryfderau o fewn cymunedau ac yn ehangach. O ganlyniad mae’r gwirfoddolwyr ar fwrdd y cwmni gyda chefnogaeth Cronfa Gymunnedol y Loteri Genedlaethol yn awyddus i weithredu cynllun dros y dair blynedd nesaf i ddatblygu a diwallu’r angen.
Mae hon yn swydd newydd a fydd yn allweddol i sicrhau bod Nerth dy Ben yn parhau i gryfhau, datblygu a gallu buddsoddi yn y cynnwys a’r ddarpariaeth.
Bydd y swydd hon yn gyfrifol am weithgarwch dydd i ddydd Nerth dy Ben wrth gydlynu a gwireddu'r cynllun busnes ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a phartneriaid.
Y rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn gyfrifol am reolaeth effeithiol Nerth dy Ben o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithredu a diweddaru cynllun busnes y sefydliad i sicrhau bod Nerth dy Ben yn datblygu mewn modd rhagweithiol a chreadigol. Byddwch yn atebol i Gyfarwyddwyr gwirfoddol y cwmni, gyda chreu partneriaethau a datblygu'r ddarpariaeth a ffynonellau incwm i’r dyfodol yn rhan bwysig o’r swydd.
Cliciwch ar y swydd ddisgrifiad isod i weld manylion llawn.
Cynhelir cyfweliadau yn Ninbych Dydd Mawrth 5/12/23.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Alaw Owen ar 07791 167469.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad Swyddog Datblygu
Swyddog Datblygu
Cysylltiad Swyddog Datblygu