Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Datblygu

Swyddog Datblygu

Trosolwg:

Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am rywun brwdfrydig a llawn cymhelliant i reoli ac ehangu ei rhaglen roddion a chymynroddion blynyddol ar sail llawn-amser a pharhaol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Bangor
Cyflog: £36,333 - £43,155 y flwyddyn (Graddfa 7)
Dyddiad Cau: 26/06/2023
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2DG
Disgrifiad:

PRIFYSGOL BANGOR

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Swyddog Datblygu 

(Cyf: BU03234)

Cyflog cychwynnol: £36,333 - £43,155 y flwyddyn (Graddfa 7) 

Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am rywun brwdfrydig a llawn cymhelliant i reoli ac ehangu ei rhaglen roddion a chymynroddion blynyddol ar sail llawn-amser a pharhaol.

Mae Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Bangor wedi tyfu er mwyn cefnogi gweledigaeth ddyngarol newydd. Bydd y Swyddog Datblygu yn meddu ar addysg at lefel gradd neu gyfwerth, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal a meithrin cysylltiadau cynhyrchiol rhwng y brifysgol a'i chyn-fyfyrwyr, cefnogwyr posib eraill, rhanddeiliaid a datblygu gweithgareddau codi arian.  Mae gan y swydd hon gyfrifoldeb penodol am ddatblygu rhaglen roddion rheolaidd y brifysgol, gan ymgorffori'r Gronfa Flynyddol (Cronfa Bangor) ac ymgyrch ffôn, a gweithredu rhaglen godi arian cymynroddol newydd.

Mae Prifysgol Bangor, un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu gweithgareddau codi arian, bellach yn adeiladu ar ei hanes llwyddiannus trwy ddatblygu ei rhaglenni codi arian ymhellach. Bydd y rhaglenni rhoddion rheolaidd a chymynroddion yn rhan hanfodol o weithgareddau codi arian y brifysgol, gan gyfrannu at ddiwylliant o roi ar draws Prifysgol Bangor a chyfrannu at iechyd ariannol y brifysgol.

Mae hon yn swydd allweddol a bydd deiliad y swydd hefyd yn cynnal ac yn datblygu portffolio o roddwyr penodedig a rhagolygon ar gyfer ymgyrchoedd codi arian ychwanegol, o dan gyfarwyddyd y Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni a bydd yn gyfrifol am stiwardiaeth y gweithgareddau hyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar addysg at safon gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.  

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted ag sydd yn rhesymol bosib. 

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i'r swydd hon.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad. 

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail rhannu swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.  Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Mehefin 2023

Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cydraddoldeb a'r Gymraeg

Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol - Cymru

Swyddog Prosiect (Cyfnod Mamolaeth)