Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored RhanbartholĀ 

Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored RhanbartholĀ 

Trosolwg:

A ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ddydd i ddydd? Rydym yn chwilio am rywun i’n helpu i wella bywydau trigolion Gogledd Cymru drwy weithgareddau awyr agored, gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial drwy weithgareddau awyr agored. 

* Cofiwch sƓn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Partneriaeth Awyr Agored
Cyflog: Ā£32,000-Ā£35,000
Dyddiad Cau: 29/07/2024
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Tim Adnoddau Dynol
Lleoliad: Gweithio o adref
Disgrifiad:

Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Rhanbarthol 

Oriau:  37 yr wythnos 

Cyflog: £32,000 - £35,000

Lleoliad: Gweithio o adref, gyda mynediad i swyddfa ym Mhlas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol, Llanfairisgaer, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE 

Cytundeb: Dros dro hyd at Mawrth 31ain, 2027

A ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ddydd i ddydd? Rydym yn chwilio am rywun i’n helpu i wella bywydau trigolion Gogledd Cymru drwy weithgareddau awyr agored, gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn potensial drwy weithgareddau awyr agored. 

Amdanom ni 

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elusen sy’n gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd o fewn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ein gweledigaeth yw i “wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored.” 

Mae’r weledigaeth hon yn golygu gwella: 

-iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl, 
-yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth) 
-y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored 
-y nifer sy’n ymgymryd mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy a symud ymlaen i gyfranogiad   gydol oes, a dysgu a hyfforddiant pellach, gwirfoddoli a chyflogaeth
-Mynediad a chefnogaeth i bobl o bob oed, rhyw, credo, cenedligrwydd, cyfeiriadedd ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes 

Y Swydd 

Mae’r swydd mewn partneriaeth gydag Actif Gogledd Cymru, sydd yn rhannu gweledigaeth y Bartneriaeth Awyr Agored i greu newid cenedlaethol ac i gael mwy o bobl yn heini. Mae gan y Bartneriaeth Bolisi Gweithio Hyblyg bydd yn galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o adref  a chael mynediad at bencadlys y Bartneriaeth ym Mhlas Menai, Caernarfon.  

Rôl Datblygu Cymunedol yw hon NID rôl darparu/hyfforddi awyr agored ac mae’n cynnwys sefydlu, rheoli, hwyluso, cydlynu, monitro a gwerthuso rhaglenni. 

Yn y rôl yma byddwch yn: 

-Sefydlu rhaglenni cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn arbennig ar gyfer merched a rhywiau ymylol eraill, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau a grwpiau difreintiedig yn economaidd 
-Cychwyn a chynorthwyo'r gymuned i ffurfio clybiau a grwpiau gweithgareddau awyr agored cynaliadwy a chynhwysol 
-Sefydlu rhaglenni iechyd a lles rhagnodi cymdeithasol i wella iechyd a lles meddyliol a chorfforol pobl 
-Sefydlu a hyrwyddo llwybrau at raglenni cyflogaeth i bobl leol yn y sector awyr agored 
-Recriwtio, lleoli, cadw a gwobrwyo gwirfoddolwyr i gynnal darpariaeth gymunedol 
 
Amdanoch chi 

I wneud y swydd yma bydd angen: 

-Gwybodaeth a phrofiad o gael cyllid yn llwyddiannus  
-Profiad o waith prosiect, datblygu a/neu gynllunio ariannol 
-Gallu paratoi adroddiadau, cronni data a llenwi ffurflenni cais am grant 
-Sgiliau TG cryf, yn enwedig Outlook, Word, Excel a Database 
-Sgiliau trefnu rhagorol 
-Sgiliau rhyngbersonol da 
-Ymrwymiad clir i gydweithio fel rhan o dîm 
-Ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth  
-Parodrwydd i weithio'n hyblyg i gyflawni gofynion y rôl 
-Y gallu i fod yn drylwyr 
-Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg 

Gellir gweld y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person llawn ar wefan ein cwmni.

Yr hyn rydym yn ei gynnig: 


-Cyflog cystadleuol

-35 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc 

-weithio hyblyg 

-Polisïau gweithio’n hyblyg 

-Cyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach 

-Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela 

-Gliniadur a ffôn symudol 

-Mynediad i'r cynllun beicio i'r gwaith 

Rydym yn angerddol am fod yn gyfartal, amrywiol a chynhwysol yn y gweithle,  ac yn credu ein bod fel sefydliad yn elwa o'r amrywiaeth o gredoau, ymagwedd a sgiliau a all ddod ag amrywiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau o bob cefndir a chymuned. Felly, waeth beth fo'ch oedran, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, statws cymdeithasol neu grefydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Dyddiad cau:  Gorffennaf 29ain, 2024 

Dyddiad cyfweld: Awst 8fed, 2024 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sƓn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Aelod allanol o Bwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol

Peiriannydd Cynorthwyol (Trydanol)

Swyddog Prosiect