Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd (Cyfnod mamolaeth)
Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd (Cyfnod mamolaeth)
Trosolwg:
Pwrpas y Swydd - Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol, gyda chefnogaeth cydweithwyr, am gydlynu a datblygu cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac am ddatblygu dwyieithrwydd ar draws Grŵp Llandrillo Menai. Bydd disgwyl i’r unigolyn a benodir weithio deuddydd yr wythnos fel Swyddog Cangen i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a thridiau fel Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd i Grŵp Llandrillo Menai.
Disgrifiad:
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau – Swyddog Cangen
1. Gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng staff y Grŵp a swyddogion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer dysgwyr a staff gan ofalu am amrywiol dasgau sy’n hwyluso’r berthynas honno, gan gynnwys sicrhau bod gan y Coleg Cymraeg bresenoldeb gweledol ar draws safleoedd y Grŵp.
2. Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth Cymraeg ar draws y cwricwlwm
3. Cydlynu’r gwaith o hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Grŵp, yn enwedig ymhlith dysgwyr a darpar ddysgwyr.
4. Cefnogi datblygu deunyddiau dwyieithog (rhyngweithiol) os gwelir angen
5. Trefnu, hyrwyddo ac annog ymgysylltu â gweithgareddau a deunyddiau cwricwlaidd y Coleg Cymraeg
6. Cefnogi ac annog dysgwyr i gyflawni gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg
7. Cynrychioli’r Grŵp a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol a digwyddiadau recriwtio.
8. Meithrin a chynnal cysylltiadau gyda chyrff a sefydliadau allanol, gan gynnwys cyflogwyr, a gweithio i hyrwyddo agenda cyflogadwyedd myfyrwyr
9. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais y rheolwr llinell
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau – Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd
1. Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth dwyieithog ar draws y cwricwlwm
2. Cytuno ar y cyd â staff y Grŵp ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan osod targedau a gwerthuso’r broses honno
3. Cefnogi i fonitro cydymffurfiaeth Grŵp Llandrillo Menai â Safonau’r Gymraeg
4. Cefnogi datblygu deunyddiau dwyieithog (rhyngweithiol) os gwelir angen
5. Cefnogi’r broses o adnabod anghenion hyfforddiant iaith ymhlith staff Grŵp Llandrillo Menai
6. Casglu tystiolaeth, data ac astudiaethau achos o arfer dda
7. Hyrwyddo ac annog ymgysylltu â gweithgareddau cyfoethogi wedi eu trefnu ar draws y Grŵp sydd yn cyd-fynd â’r Seren Iaith
8. Paratoi adroddiadau ar gyfradd cyflawni’r Seren Iaith a monitro data e.e. y defnydd o wahanol becynnau dysgu
9. Cefnogi pob dysgwr i gymryd rhan yn y Seren Iaith
10. Cyfrannu at brosiectau ymchwil yn ôl y gofyn
11. Cydweithio’n effeithiol gydag aelodau o dîm Sgiliaith a mynychu cyfarfodydd tîm yn ôl yr angen
12. Cadw mewn cysylltiad â thîm Sgiliaith er mwyn hyrwyddo a marchnata cyrsiau yn ôl y gofyn
13. Mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid a chyfarfodydd tîm
14. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais Pennaeth Sgiliaith
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad / Manyleb person
Swydd ddisgrifiad / Manyleb Person
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd (Cyfnod mamolaeth)
Cysylltiad Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd (Cyfnod mamolaeth)