Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Datblygu – Caerfyrddin a’r Cyffiniau (Cyfnod Mamolaeth)

Swyddog Datblygu – Caerfyrddin a’r Cyffiniau (Cyfnod Mamolaeth)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson trefnus ac effeithiol sydd â’r gallu a’r profiad i adnabod cyfleoedd i ddatblygu a gweithredu prosiectau, gweithgareddau, a digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Menter Gorllewin Sir Gar
Cyflog: £22,369 - £25409 yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau
Dyddiad Cau: 11/03/2024
Amser Cau: 09:00:00
Enw Cyswllt: Dewi Snelson
Ffôn: 01239 712934
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad:

CYFRIFOLDEBAU’R SWYDDOG
• Ar y cyd gyda swyddogion eraill y Fenter, llunio cynllun gweithredol ar gyfer ardal weithredol Menter Gorllewin Sir Gâr
• Adnabod cyfleoedd yn ardal y Fenter i ddatblygu a gweithredu gweithgareddau, gweithrediadau a digwyddiadau a fydd yn cyrraedd nodau ac amcanion Menter Gorllewin Sir Gâr
• Adnabod partneriaid a mudiadau lleol y gellir fod yn cydweithio â hwy er mwyn cyrraedd nodau ac amcanion y Fenter
• Adnabod ffynonellau cyllid priodol ar gyfer prosiectau a pharatoi ceisiadau am nawdd mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Rheoli
• Trefnu, mynychu a gweinyddu cyfarfodydd amrywiol yn ôl yr angen
• Gweithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn unol â’r galw
• Cynorthwyo â chynlluniau cyffredinol a digwyddiadau’r Fenter yn ôl y galw
• Adrodd nôl yn llawn ar brosiectau i’r Prif Weithredwr yn gyson ac i’r Pwyllgor Rheoli a chyrff allanol pan fydd angen
• Rheoli, gweithredu a monitro prosiectau gan gynnwys cyllid
• Hyrwyddo delwedd gyhoeddus y Fenter gan fynychu digwyddiadau a sioeau perthnasol
• Sicrhau cysylltiadau da gyda’r wasg a’r cyfryngau
• Cydweithio fel rhan o dîm
• Cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol a personol
• Cyfrannu at unrhyw agwedd o waith y Fenter neu waith arall yn ôl y galw.
• Gweithredu yn unol â Deddf Gwlad, Polisïau a Gweithdrefnau Menter Gorllewin Sir Gâr, yn cynnwys rheoli risg a materion iechyd a diogelwch.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Gais

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Derbynnydd

Cyfrifydd Rannol-Gymwysedig neu Chyfrifydd Dan Hyfforddiant

Swyddog Ieuenctid Abertawe