Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Dadansoddi Data

Swyddog Dadansoddi Data

Trosolwg:

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Prentis Gwyddor Data.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Archwilio Cymru
Cyflog: £24,723- £30,274 (band cyflog DSA)
Dyddiad Cau: 07/04/2024
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Tîm Adnoddau Dynol
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Rôl Prentis - 36 mis

Mwy am y swydd

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Prentis Gwyddor Data.

A oes gennych ddiddordeb mewn data a dadansoddeg? A wy rhifau a'r straeon y maent yn eu hadrodd yn eich cyffroi? A ydych yn hoffi posau a datrys problemau? A ydych erioed wedi eisiau dysgu sut i godio?

Mae'r dyfodol yn fyd sy'n cael ei yrru gan ddata a bydd y gallu i ddadansoddi a defnyddio data yn sgil allweddol. Felly, os yw dadansoddeg data yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, yna efallai mai Prentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano.

Ac nid dim ond cyfle i rywun ddechrau ym myd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.

Rydym yn chwilio am berson uchel eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn. Nid oes angen profiad arnoch, dim ond dawn, ymrwymiad a brwdfrydedd. Yn gyfnewid byddwch yn derbyn rhaglen waith amrywiol a diwrnodau wedi’u rhyddhau i astudio gradd mewn gwyddor data ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae ein hymddygiad GWYCH wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn chwilio am rywun a all wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy eu sgiliau data. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Arwerthwr a Rheolwr Adran Da Byw

Swyddog Ansawdd Data Cag

Cynorthwy-ydd Cyflenwi Busnes