Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid (ECLO)

Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid (ECLO)

Trosolwg:

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r cyfle cyffrous hwn i ymuno â’n Gwasanaeth Cefnogi Gofal Llygaid blaenllaw ni yn y DU a’r tîm ECLO yng Nghymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: RNIB
Cyflog: £30,550 cyfwerth ag amser llawn (£24,440 pro rata)
Dyddiad Cau: 12/01/2025
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: RNIB
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid (ECLO)

Cyflog: £30,550 cyfwerth ag amser llawn (£24,440 pro rata)

Math o Gontract: Contract Parhaol

Oriau: 28 awr yr wythnos

Lleoliad: Clinig Llygaid, Ysbyty Gwynedd, Ffordd Penrhos, Bangor. LL57 2PW

Dyddiad cau: Dydd Sul 12 Ionawr 2025 (hanner nos).

Ni yw’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) ac rydym yma i bawb sy’n cael eu heffeithio gan golled golwg. Mae gweithio i ni yn golygu gweithio i un o elusennau mwyaf y DU, gan gefnogi bron i ddwy filiwn o bobl sy’n byw gyda cholled golwg yn y DU.

Mae’r RNIB yn arwain y gwaith o greu byd lle nad oes rhwystrau i bobl sydd â cholled golwg. Un o'n blaenoriaethau allweddol ni yw gofyn i bobl weld colled golwg yn wahanol, gan wyrdroi canfyddiadau anghywir a newid ymddygiad y cyhoedd fel bod pawb yn disgwyl cyfranogiad cyfartal gan bobl sydd â cholled golwg a chreu cymdeithas gwbl hygyrch.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r cyfle cyffrous hwn i ymuno â’n Gwasanaeth Cefnogi Gofal Llygaid blaenllaw ni yn y DU a’r tîm ECLO yng Nghymru.

Yn y rôl hon byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phobl sydd â cholled golwg, a phobl sy'n cael diagnosis o gyflwr a allai achosi colled golwg yn y dyfodol, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. Gan ddarparu dealltwriaeth, gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol hanfodol, byddwch yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus sy'n eu galluogi a'u grymuso i gynnal eu hannibyniaeth ac wynebu'r dyfodol yn hyderus.

Gan weithio ar draws adran offthalmoleg fawr byddwch yn gweithio'n agos ochr yn ochr â chlinigwyr ac yn datblygu partneriaethau cadarn ar draws gofal cymdeithasol, cefnogaeth gymunedol a sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am sut beth yw bod yn ECLO, dilynwch y dolenni isod:

Gwasanaeth ECLO yr RNIB - YouTube

Hysbyseb teledu Apêl Newidwyr Bywyd yr RNIB - YouTube

Diwrnod ym Mywyd ECLO - Gwefan yr RNIB

Beth rydym yn chwilio amdano

Bydd gennych brofiad clir o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor gan weithio'n uniongyrchol gyda'r bobl rydych yn eu cefnogi. Yn allweddol i’r rôl hon fydd eich sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol gyda chleifion, clinigwyr, ac ystod eang o bartneriaid traws-sector.

Dylech fod yn hyderus i weithio ar eich liwt eich hun, bod â sgiliau trefnu rhagorol a bod yn ddefnyddiwr hyderus o systemau TG. Mae sgiliau cadw cofnodion manwl gywir yn allweddol i'r rôl hon hefyd.

Sut i Wneud Cais

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi ymateb i'r cwestiynau ar ein ffurflen gais fer a chyflwyno eich CV. Os ydych chi’n cael anhawster gwneud cais, cysylltwch â HRSharedService@rnib.org.uk

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Aelod Bwrdd

Clerc Cyllid Iau

Swyddog Gwybodaeth