Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Cymunedau Dwyieithog
Swyddog Cymunedau Dwyieithog
Trosolwg:
MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM
Mudiad lleol yw Menter Iaith Fflint a Wrecsam sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg drwy drefnu ystod eang o weithgareddau hwyliog i’r gymuned gyfan.
SWYDDOG CYMUNEDAU DWYIEITHOG
Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i arwain ar y gwaith o sefydlu a chefnogi nifer o grwpiau cymunedol a hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn siroedd y Fflint a Wrecsam
Disgrifiad:
Cefndir
Mae Mentrau Iaith yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau lleol. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Lleolir swyddfa Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn yr Wyddgrug, ac rydym yn gweithio ym mhob ardal o siroedd y Fflint a Wrecsam.
Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Prif Gyfrifoldebau:-
Gweithio gyda grwpiau cymunedol a staff eraill Menter Iaith Fflint a Wrecsam i drefnu a chynnal gweithgareddau blaengar a phoblogaidd sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu naturiol a hwyliog;
Cynorthwyo i sefydlu a chynnal Pwyllgorau Ardal mewn ardaloedd penodol.
Ymgymryd a rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, creu a dadansoddi holiaduron ac adrodd ar gynnydd y grwpiau yn rheolaidd.
Mentora unigolion a grwpiau gwirfoddol ar sut i wneud ceisiadau grant bychain megis arian i bawb a Noson Allan, a cheisiadau i gynghorau tref a chymuned er mwyn iddynt allu ariannu yr hyn maent am ei wireddu yn y dyfodol.
Cynorthwyo’r grwpiau cymunedol i reoli unrhyw wariant cyllideb.
Paratoi ceisiadau am nawdd ar gyfer datblygu a chyllido prosiectau a gweithgareddau.
Cynorthwyo’r Swyddog Busnes i reoli gwariant cyllideb gweithgareddau’r Fenter.
Cynorthwyo i greu a pharatoi deunyddiau marchnata a chodi proffil y grwpiau [FW1] yn y wasg leol a chenedlaethol.
Cynorthwyo i weithredu Cynllun Marchnata’r Fenter a chodi ei phroffil lleol a chenedlaethol;
Cydweithio â phartneriaid y Fenter i gefnogi unrhyw weithgaredd sy’n bodoli eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.
Mynychu cyfarfodydd ar ran y Fenter fel bo angen.
Cyflog: £24,378 (pro rata) + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%
Oriau Gwaith: 14.8 awr yr wythnos
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Fenter yng Nghorlan, Uned 3, Parc Busnes yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug, CH7 1XP .
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd : Swyddog Cymunedau Dwyieithog 2025
Ffurflen Gais : Swyddog Cymunedau Dwyieithog
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Cymunedau Dwyieithog
Cysylltiad Swyddog Cymunedau Dwyieithog