Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Cymraeg i Blant Bangor a’r cyffiniau (Cyfnod Mamolaeth a Thymor Ysgol yn Unig)

Swyddog Cymraeg i Blant Bangor a’r cyffiniau (Cyfnod Mamolaeth a Thymor Ysgol yn Unig)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpar rieni, teuluoedd a phlant ifanc. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i’r gymuned, teuluoedd a phartneriaid yn yr ardal.  Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gydlynu a chynnal gweithgareddau Cymraeg i Blant yn lleol ac fel rhan o Strategaeth Weithgareddau Cenedlaethol Cymraeg i Blant ar ran Mudiad Meithrin. 

Cyfweliadau:  I'w cynnal dros Teams

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM15 £24,200 i MM20 27,835 (pro rata)
Dyddiad Cau: 04/04/2025
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Dinah Ellis
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Reolwr Cenedlaethol Cymraeg i Blant trwy Brif Swyddog am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
•    Cydlynu a chynnal isafswm o 6 o grwpiau cefnogi i rieni a babis yn y gymuned yn wythnosol.
•    Meithrin perthynas gyda phartneriaid a amlinellir yn Strategaeth Partneriaethau Cymraeg i Blant gyda phwyslais ar y sector iechyd (mewn cydweithrediad â’r Prif Swyddog perthnasol).
•    Canolbwyntio ar ymgorffori’n llwyr yn y gymuned leol a dod i adnabod y gwahanol gymdeithasau sy’n bodoli sy’n cynnwys darpar rieni neu rieni newydd a’u teuluoedd.
•    Gweithio o fewn y gymuned i rannu gwybodaeth gyda theuluoedd gan wneud hynny’n gydlynus gydag amryw o bartneriaid.
•    Cydweithio’n agos gyda thimoedd taleithiol Mudiad Meithrin er mwyn rhannu gwybodaeth leol a sicrhau bod y gwaith yn cydblethu ac yn arwain at gynllunio strategol ystyrlon i’r plentyn ddilyn y llwybr o enedigaeth i gylch Ti a Fi, i Gylch Meithrin ac yna i addysg Gymraeg.
•    Adnabod cyfleoedd a lleoliadau addas i gynnal gweithgareddau apelgar i deuluoedd, yn cynnwys ardaloedd Dechrau’n Deg a fyddai’n arwain at agor Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin newydd gan staff Mudiad Meithrin.
•    Meithrin perthynas gydag arweinyddion Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin ac ysgolion Cymraeg /dwy ffrwd leol.
•    Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd 
•    Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol.
•    Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
•    Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol.
•    Cadw cofnod manwl o’r gwaith a chyflwyno adroddiad misol.
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cymraeg i Blant yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Brif Weithredwr.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Disgrifiad

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro

Buddion Staff

Polisi Diogelu plant

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Partner Pobl (Gweithredol)

Gweinyddwr Gweithrediadau

Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol