Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Trosolwg:
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes – gan ganolbwyntio ar brosiect Clwb Cwtsh yn benodol
· Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn rheolaidd gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid
· Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru platfformau digidol Clwb Cwtsh gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod y cynnwys yn amrywiol a deniadol.
· Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata cynllun Clwb Cwtsh.
· Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin
· Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith Clwb Cwtsh a’r Mudiad
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Disgrifiad
Ffurflen Gais
Ffurflen Monitro
Buddion Staff
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Cysylltiad Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh