Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Cyfathrebu Digidol
Swyddog Cyfathrebu Digidol
Trosolwg:
Byddwch yn ymuno â thîm Cyfathrebu bach ac amlfedrus sy'n tyfu er mwyn cefnogi meysydd gwaith newydd. Rhyngom, rydym yn ymdrin â disgyblaethau Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth sy'n cynnwys cyfathrebu digidol, ac yn arwain ar strategaeth Gymraeg y sefydliad.
Mae rhai o'n prif feysydd gwaith yn cynnwys:
· Ymgysylltu â darparwyr llety ymwelwyr wrth i ni baratoi i ddarparu'r gwasanaethau ar gyfer gweithredu'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
· Helpu pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Byddwch yn gweithio gyda'n tîm cyflenwi gweithredol i'n helpu i gyfathrebu Ein Dull – ffordd gefnogol o reoli treth
· Fel sefydliad sy'n tyfu, helpu i ddatblygu brand gweithwyr cryf ar gyfer ACC, gan ystyried y dulliau gorau o ddefnyddio cyfathrebiadau i gefnogi'r strategaeth recriwtio sydd â'r nod o ddenu'r dalent orau
Fel ein Swyddog Cyfathrebu Digidol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau presenoldeb ar-lein ACC wrth i ni ehangu ein galluoedd cyfathrebu digidol. Mewn amgylchedd sy'n gynyddol ddigidol, byddwch yn creu, yn cyflwyno ac yn gwerthuso cynnwys dwyieithog diddorol sy'n cysylltu â'n cynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru.
Byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous wrth i ni ddatblygu gwasanaethau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan weithio i:
Greu cynnwys dwyieithog diddorol, hygyrch a chynhwysol sy'n cynyddu ymgysylltiad y gynulleidfa ar draws ein llwyfannau digidol
Cefnogi gweithredu gweithgareddau cyfathrebu a amlinellir yn ein cynlluniau cyfathrebu OASIS
Monitro a gwerthuso perfformiad ein sianeli ddigidol, gan ddefnyddio mewnwelediadau i wella cynnwys yn barhaus
Cynnal ein henw da trwy gyfathrebu cyson, proffesiynol sy'n dilyn safonau hygyrchedd y llywodraeth a chanllawiau brand ACC
Teithio ledled Cymru i gofnodi cynnwys dilys sy'n adlewyrchu ein gwaith ac yn cefnogi ein blaenoriaethau
Bod yn ymwybodol o dueddiadau digidol sy'n dod i'r amlwg er mwyn nodi cyfleoedd ymgysylltu newydd
Byddwch yn gwneud penderfyniadau am gynnwys o ddydd i ddydd, a hynny o fewn canllawiau sefydledig, gan uwchgyfeirio materion mwy cymhleth i'ch rheolwr llinell.
Bydd eich gwaith yn effeithio'n uniongyrchol ar ba mor effeithiol yr ydym yn cyfathrebu â'n rhanddeiliaid ac yn dylanwadu arnynt, gan sicrhau bod ein negeseuon yn amserol, yn hygyrch ac yn effeithiol ar draws ein sianeli digidol.
Byddwch yn ffynnu yn y rôl os ydych yn mwynhau gweithio gydag amrywiaeth o bobl. Byddwch yn gyfforddus yn delio â phobl o wahanol gefndiroedd er mwyn helpu i ddod â'n hadrodd straeon cyfryngau cymdeithasol yn fyw mewn ffordd ddiddorol a pherthnasol i'n cynulleidfaoedd.
Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich datblygiad proffesiynol drwy ystod o gyfleoedd, gan gynnwys: cymwysterau, hyfforddiant ac ymuno â rhwydweithiau Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill yn y DU.
Disgrifiad:
Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr
Byddwn yn cynnal 2 sesiwn wybodaeth rithwir ar gyfer ymgeiswyr ar 17 Mehefin 2025 am 12.30pm a 4.30pm trwy Microsoft Teams. Bydd hwn yn gyfle i chi ddysgu mwy am y swydd. Os hoffech chi fod yn bresennol, cofrestrwch ar gyfer y sesiynau gwybodaeth gan ddefnyddio'r dolenni isod
17 Mehefin - 12.30pm – Business Wales Events Finder - Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr - Swyddog Cyfathrebu Digidol
17 Mehefin – 4.00pm - Business Wales Events Finder - Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr - Swyddog Cyfathrebu Digidol
Prif dasgau
Creu cynnwys
· Creu, golygu a chyhoeddi cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel ar draws sawl platfform, gan fodloni safonau ar arddull, cywair a chyhoeddi.
· Datblygu asedau gweledol deniadol gan ddefnyddio ystod o offer gan gynnwys Adobe Creative Suite a Canva
· Cefnogi creu’r bwrdd stori, ffilmio, golygu ac optimeiddio cynnwys fideo
· Golygu ffotograffau a dylunio cynnwys ysgrifenedig
· Cynnal calendrau cynnwys ac amserlennu cyfathrebiadau digidol er mwyn sicrhau ymgysylltiad cyson â'r gynulleidfa
· Sicrhau bod yr holl gynnwys digidol yn bodloni safonau hygyrchedd a safonau'r Gymraeg
Ymgysylltu a monitro’r gynulleidfa
· Gwrando’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn nodi tueddiadau, teimladau’r gynulleidfa, a phynciau sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i weithgareddau ACC
· Monitro sianeli cyfryngau cymdeithasol i nodi cyfleoedd ymgysylltu a materion posibl
· Cefnogi'r tîm gyda gweithgareddau monitro’r cyfryngau, olrhain y sylw mae ACC a straeon sy'n gysylltiedig â threth yn ei chael
· Monitro a gwerthuso perfformiad sianeli ddigidol yn unol â Chylch Gwerthuso GCS, gan helpu i optimeiddio cynnwys a gwella ymgysylltiad â'r gynulleidfa
· Cyfrannu at reoli cymuned y cyfryngau cymdeithasol, gan ymateb i ymholiadau o fewn canllawiau sefydledig
· Monitro mewnflychau a rennir ac ymateb i ymholiadau, gan uwchgyfeirio i’r Uwch Reolwr Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd lle bo angen
Cefnogi ymgyrchoedd
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu ymgyrchoedd digidol mewn modd sy'n cyd-fynd ag amcanion ACC
Gweithio gydag arbenigwyr pwnc i ddatblygu cynnwys cywir a diddorol
Helpu i weithredu gweithgareddau digidol a amlinellir yng nghynlluniau cyfathrebu OASIS
· Teithio ledled Cymru i gofnodi cynnwys dilys ar gyfer sianeli digidol, gan weithio yn unol â threfniadau sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw
Cydweithrediad Tîm
Cefnogi Rheolwr y Gymraeg a Chyfathrebu Mewnol gyda chydymffurfio â safonau'r Gymraeg
Cysylltu â thimau ar draws y sefydliad i ddatblygu cynnwys sy'n cyfleu mentrau allweddol yn effeithiol
Bod yn ymwybodol o dueddiadau cyfathrebu digidol ac arferion gorau er mwyn awgrymu gwelliannau
Helpu i gefnogi ar reoli contractau, gan gynnwys fframweithiau caffael a rheoli costau ariannol o ddydd i ddydd
· Bod yn rhan o gylch ar alwad y tîm gan ymwneud â’r wasg a rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, y tu allan i oriau, yn ôl yr angen
Cymryd rhan mewn rhwydweithiau ehangach ar ran y tîm Cyfathrebu ac ACC i sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job description
disgrifiad swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Cyfathrebu Digidol
Cysylltiad Swyddog Cyfathrebu Digidol