Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata creadigol a threfnus iawn i gefnogi Partneriaeth Cymraeg i Bawb. Rol Partneriaeth Cymraeg i Bawb yw hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws 10 awdurdod lleol y De Ddwyrain. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu dwyieithog gymryd yr awenau wrth hyrwyddo ein gwaith ar draws gwahanol lwyfannau digidol.
Disgrifiad:

Byddwch yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynllunio, creu a rhannu cynnwys ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb (gan gynnwys YouTube, Facebook, X/Twitter, Instagram, TikTok, Bluesky, ac eraill fel y bo'n berthnasol) yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch hefyd yn helpu i gynnal a diweddaru cynnwys ein gwefan yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gyfredol.
Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo'r Bartneriaeth i ddatblygu a pharatoi cynigion cyllid, gan helpu i sicrhau twf ac effaith barhaus gweithgareddau Cymraeg i Bawb.
Prif Gyfrifoldebau
Creu ac amserlennu cynnwys diddorol a dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb a datblygu rhai newydd ar lwyfannau newydd yn ôl yr angen.
Monitro ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol ac ymateb yn briodol i negeseuon a sylwadau.
Helpu gyda diweddaru a chynnal gwefan Cymraeg i Bawb, gan sicrhau hygyrchedd a defnyddioldeb ar draws dyfeisiau.
Gweithio'n agos gyda phartneriaeth Cymraeg i Bawb a phartneriaid eraill i gasglu straeon, delweddau, newyddion perthnasol, datblygiadau a diweddariadau i'w rhannu ar-lein yn rheolaidd.
Datblygu ymgyrchoedd digidol i gefnogi digwyddiadau, rhaglenni a mentrau allgymorth.
Monitro tueddiadau digidol a gwneud argymhellion ar gyfer cynyddu ymgysylltiad a gwelededd ar-lein.
Gan weithio gyda'r Bartneriaeth, cynghori a chefnogi awdurdodau lleol ardal y De Ddwyrain gyda chynlluniau hyrwyddo addysg Gymraeg.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu ac ysgrifennu ceisiadau cyllid grant mewn cydweithrediad llawn â phartneriaid Cymraeg i Bawb.
Mynychu cyfarfodydd diweddaru gyda'ch rheolwr llinell, fel arfer trwy Microsoft Teams neu Zoom, a chyfarfodydd y Bartneriaeth lawn sydd wedi'u trefnu (fel arfer bob chwarter), a bydd rhai ohonynt mewn person.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd
Job Description
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)
Cysylltiad Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)