Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaith Gymraeg

Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaith Gymraeg

Trosolwg:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaeth Gymraeg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Heddlu Dyfed-Powys
Cyflog: £29,874 - £32,772
Dyddiad Cau: 29/05/2024
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaeth Gymraeg.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cynorthwyo'r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaith Gymraeg i ddatblygu strategaethau a pholisïau sy'n berthnasol ar gyfer y maes busnes, a helpu i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar draws meysydd busnes eraill. 
Gweithio'n agos â phartneriaid mewn sefydliadau partner, gan gynnwys y tri heddlu arall, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Tân ac Achub, Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac ati er mwyn adnabod a rhannu arfer gorau, yn ogystal â nodi cyfleoedd posibl ar gyfer cydweithio.
Sefydlu a chynnal llwybr gyfathrebu effeithiol â'n cymunedau amrywiol, gan weithio gyda'n Timoedd Plismona Bro.
Monitro unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau sy'n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod yr Heddlu'n cael cyngor mewn perthynas â'u gweithredu.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.  

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.  

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ac Ymwybyddiaeth

Swyddog Datblygu

Swyddog Ymgysylltu (Gogledd)