Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)
Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)
Trosolwg:
Y swydd a’r person: Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau cyfrwng Saesneg i arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant y darpariaethau drwy hyfforddiant iaith a mentora. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno cynllun Clebran sef rhaglen iaith benodol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg nas cynhelir. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont a Clebran am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Cefnogi a chynorthwyo lleoliadau cyfrwng Saesneg yn rhithiol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Clebran’
• Darparu gwasanaeth rhithiol i gefnogi’r iaith Gymraeg yn y gweithle trwy gynllun ‘Clebran’ i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach
• Darparu hyfforddiant rhithiol trwy gyflwyno gweithdai dros Microsoft Teams pob hanner tymor
• Darparu cefnogaeth 1:1 dros Microsoft Teams gyda staff y meithrinfeydd rhwng y gweithdai
• Ymweld â lleoliadau yn ôl amserlen tymhorol
• Cytuno ar y cyd â staff y lleoliad ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
• Cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i gynorthwyo’r lleoliadau i ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r iaith Gymraeg
• Cynnal sgyrsiau rhithiol a /neu wyneb gyda staff y lleoliadau ynglŷn â manteision dwyieithrwydd
• Datblygu gweithdai thematig ychwanegol dan arweiniad Prif Swyddog a Rheolwr y cynllun
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu rhithiol yn ôl y galw
• Cydweithio’n agos gyda’r timoedd Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y siroedd perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth gyson, a darparu adroddiadau monitro tymhorol
• Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad
Ffurflen Gais
Buddion Staff
Polisi Diogelu Plant
Ffurflen Monitro
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)
Cysylltiad Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)