Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain
Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith darpariaethau yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon yn unol â chyfarwyddiadau’r Rheolwr Talaith.
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd:
Cefnogaeth Gyffredinol:
Cefnogi darpariaethau e.e. cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi, fel rhan o dîm
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth yn ôl yr angen
Eiriol a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni, ysgolion ayyb
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen
Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad
Ffurflen Gais
Buddion Staff
Ffurflen Monitro
Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain
Cysylltiad Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain