Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Cefnogi (Cyfnod Mamolaeth) Casnewydd, Canol Caerffili a De Mynwy

Swyddog Cefnogi (Cyfnod Mamolaeth) Casnewydd, Canol Caerffili a De Mynwy

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin o fewn dalgylch daearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau mewn ardal ddaearyddol benodol. Yn ychwanegol i hynny, ac fel rhan o dîm, bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn y dalaith i gynnal a chadw ansawdd a safon. Mae Mudiad Meithrin yn cynnig pecyn anwytho cynhwysfawr a rhaglen o hyfforddiant llawn yn ôl yr angen.

 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM15 - MM20 £21,453 - £25,017 pro rata
Dyddiad Cau: 29/01/2023
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Nia Parker, Dirprwy Reolwr Talaith
Ffôn: 07792948882
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Cefnogaeth Gyffredinol
•    Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin
•    Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.
•    Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.
•    Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.
•    Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth
•    Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd
•    Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb
•    Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg .
•    Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin
•    Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu
•    Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus 
•    Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen
•    Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn  
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Syrfëwr Gwledig

Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Rheolwr Cyllid Prosiectau