Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Ariannu - Gogledd Cymru
Swyddog Ariannu - Gogledd Cymru
Trosolwg:
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm Ariannu yng Ngogledd Cymru.
Byddwch yn ymuno â’n tîm cyfeillgar ac yn gweithio gyda’n tîm Ariannu yng Nghymru a ledled y DU. Yn dibynnu ar eich lleoliad a’ch dewis, gallwch weithio gartref neu gyfuniad o weithio gartref a gweithio yn ein swyddfeydd yn y Drenewydd neu Gaerdydd.
Disgrifiad:
Fel swyddog ariannu’n gwasanaethu rhanbarth y Gogledd, (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a Gogledd Powys), byddwch yn asesu ceisiadau ariannu ac yn rheoli grantiau gan ddefnyddio gwybodaeth leol, arferion gorau, arbenigedd thematig a phrofiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid i wella ein grantiau a hysbysu ein penderfyniadau. Drwy weithio’n agos gyda phobl a chymunedau, byddwch chi’n deall yr hyn sy’n bwysig iddynt a lle y gall ein hariannu wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Byddwch chi’n gyfrifol am gefnogi pobl leol a chymunedau ar Ynys Môn, a bydd gennych ddealltwriaeth gref o’n gweledigaeth, ac yn gallu addasu eich dull yn unol â dymuniadau'r bobl rydych chi’n gweithio â nhw. Bydd hefyd angen i chi gefnogi ein rhanddeiliaid, gan eu helpu i wneud cysylltiadau a fydd yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion.
Byddwch chi’n gyfrifol am brosiectau arfaethedig ar Ynys Môn, gan ddeall ac ymateb i wahanol anghenion ein cwsmeriaid drwy roi cyngor ac adborth ystyriol, a bod yn fodlon cael sgyrsiau heriol ond adeiladol. Bydd Swyddogion Ariannu’n sicrhau bod rheolaeth ac asesiad ein grantiau’n chwarae rhan effeithiol wrth gyfrannu at wybodaeth a dysgu’r Gronfa fel dyfarnwr grantiau. Byddwch chi’n rheoli llwyth gwaith eich hun, cysylltu â derbynwyr grantiau, ymweld â phrosiectau, adnabod a rheoli risg, cefnogi sefydliadau i gyflawni eu prosiectau a mesur eu heffaith.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg yn rhugl ac yn hyderus yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Swydd barhaol, llawn amser yw hon (rydym yn agored i drafodaeth am weithio’n hyblyg a rhannu swydd).
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Candidate Guidance
Role Profile
Arweiniad i Ymgeiswyr
Proffil Rôl
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Ariannu - Gogledd Cymru
Cysylltiad Swyddog Ariannu - Gogledd Cymru