Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Ansawdd Data Cag

Swyddog Ansawdd Data Cag

Trosolwg:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel  Swyddog Ansawdd Data Cag

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Heddlu Dyfed-Powys
Cyflog: £24,921 - £27,351
Dyddiad Cau: 18/11/2024
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Heddlu:  Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl:  Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran:  TGCH
Lleoliad:  Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol:  Hyblyg
Gradd  C
Cyflog  £24,921 - £27,351
Rhan/Llawn Amser:  Llawn Amser
Oriau'r Wythnos  37
Math o Gytundeb:  Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?  1
Dyddiad Cyfweliad:  28 Tachwedd 2024
Dyddiad cau  18/11/24 23:55

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Dadansoddi cywirdeb a chyfanrwydd data sy’n cael ei ddal ar SRhC Niche Arfordir y Gorllewin ac ymchwilio i achosion data anghywir yr adroddwyd amdanynt i gadarnhau pa un ai a oes camgymeriad wedi’i wneud a chymryd y camau gofynnol ar gyfer diwygio’r camgymeriad.

Rhoi cyngor ac arweiniad mewn perthynas â materion ansawdd data cyffredinol a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella ansawdd data a defnydd cwsmeriaid o’r system yn barhaus.

Casglu a dadansoddi’r mathau o gamgymeriadau sy’n cael eu gwneud a gwneud argymhellion ar gyfer gwella er mwyn cynnal perthnasedd a chywirdeb data a lleihau’r perygl y bydd CAG yn dal data anghywir.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.  

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.  

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cynorthwyydd Gwasanaethau'r Gymraeg

Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Carco Ysgol Gymraeg Y Fenni

Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh – dros gyfnod mamolaeth