Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Aelodaeth Cyfeillion
Swyddog Aelodaeth Cyfeillion
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n Tîm Codi Arian fel Swyddog Aelodaeth ar gyfer Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn elusen ar wahan i’r Llyfrgell Genedlaethol, a’i amcanion yw hyrwyddo addysg, gwybodaeth gyhoeddus a dealltwriaeth trwy hybu, cefnogi, helpu, a gwella Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy weithgareddau grwp o gyfeillion.
Disgrifiad:
CEFNDIR
Mae’r swydd hon yn cael ei ariannu gan Llwyddo’n Lleol 2050, Rhaglen Arfor. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.
PWY SY’N GYMWYS? • Unigolion rhwng 18 a 35 oed • Unigolion sydd yn byw yn ardal ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) neu yn wreiddiol o ardal ARFOR ac yn bwriadu / eisiau symud yn ôl. • Unigolion sydd yn gallu siarad Cymraeg neu sy’n gallu dangos ymrwymiad clir i ddysgu a defnyddio’r iaith. • Unigolion sydd eisiau gweithio mewn meysydd diddorol ac amrywiol. • Unigolion sydd eisoes mewn gwaith ond eisiau ymgeisio am swydd uwch o fewn y cwmni.
*Mae rhai ymrwymiadau yn ofynnol o’r unigolyn fydd yn derbyn y swydd hon. Mae’r rhain wedi cael eu nodi ar ddiwedd y disgrifiad swydd.
BETH MAE’R LLYFRGELL GENEDLAETHOL YN EI GYNNIG FEL CYFLOGWR?
• Lleoliad gwaith o fewn maes arloesol
• Cynnig cyfnod o waith i’r unigolyn a/neu profiadau arbennig dros gyfnod amhenodol
• Cynnig cyfleodd gwaith diddorol i’r unigolyn
• Cynnig sesiynnau mentora a hyfforddiant i’r unigolyn er mwyn iddyn nhw fuddio cymaint a phosib o’r bartneriaeth
• Creu cynllun hir-dymor sy’n dangos gwaddol ac effaith y gefnogaeth.
• Ymrwymiad llawn i gefnogi datblygiad proffesiynol / profiadau newydd yr aelod newydd o staff / yr unigolyn
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n Tîm Codi Arian fel Swyddog Aelodaeth ar gyfer Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn elusen ar wahan i’r Llyfrgell Genedlaethol, a’i amcanion yw hyrwyddo addysg, gwybodaeth gyhoeddus a dealltwriaeth trwy hybu, cefnogi, helpu, a gwella Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy weithgareddau grwp o gyfeillion.
Bydd y Swyddog Aelodaeth yn chwarae rhan allweddol mewn rhaglen gorchwyl a gorffen trawsnewidiol ar gyfer y Cyfeillion. Bydd tasgau yn cynnwys cydlynu gwaith i foderneiddio prosesau a gweithdrefnau a chynorthwyo pwyllgor y Cyfeillion i fabwysiadu technolegau newydd. Prif bwrpas hyn yw effeithloni prosesau codi arian y Llyfrgell, cynnig profiad gwell i’n rhoddwyr, a’i gwneud yn haws i aelodau noddi a chyfrannu at waith y Llyfrgell.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Aelodaeth Cyfeillion
Cysylltiad Swyddog Aelodaeth Cyfeillion