Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Adnoddau Graddfa
Swyddog Adnoddau Graddfa
Trosolwg:
Mae cyfle cyffrous a phrin yn bodoli i ymuno â'r Tîm Gwasanaethau Pobl i roi'r systemau a'r prosesau ar waith a'u gweithredu i'n galluogi i recriwtio, datblygu a hyfforddi ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Disgrifiad:
Swyddog Adnoddau Graddfa 6 £31,586 - £33,366 pro rata
Rhan-amser 0.6 CALl
Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2028
Mae cyfle cyffrous a phrin yn bodoli i ymuno â'r Tîm Gwasanaethau Pobl i roi'r systemau a'r prosesau ar waith a'u gweithredu i'n galluogi i recriwtio, datblygu a hyfforddi ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Os oes gennych wybodaeth ac, yn ddelfrydol, brofiad o weithio gydag Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion i glustnodi a lleoli myfyrwyr mewn swyddi cyflogedig, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Bydd angen i chi gael trwydded yrru lawn a defnydd cerbyd at ddibenion gwaith.
Ariennir y swydd hon drwy'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a gyflawnir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £31,586- £33,366, pro rata y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 08/07/2025
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Adnoddau Graddfa
Cysylltiad Swyddog Adnoddau Graddfa