Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Y Llinell Las: Cynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu (Self-Shooting AP)
Y Llinell Las: Cynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu (Self-Shooting AP)
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu i weithio ar un o raglenni poblogaidd S4C, Y Llinell Las yng Ngogledd Cymru.
Disgrifiad:
Y Llinell Las : Cynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu (Self-Shooting AP)
Mae Slam yn gwmni Cynhyrchu annibynnol sy’n cynhyrchu ystod eang o raglenni i ddarlledwyr fel S4C, ITV a’r BBC – cyfresi gwledig a chwaraeon, dogfennau sensitif a digwyddiadau cenedlaethol cymhleth ac uchelgeisiol.
Mae gennym gyfle cyffrous i weithio ar un o raglenni poblogaidd S4C, Y Llinell Las yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu medrus gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddianus:
· ddawn greadigol ar gyfer adrodd straeon
· barn olygyddol gadarn
· angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel.
· yn hunan saethwr hyderus gyda’r gallu i ddenfyddio Sony FX9, FX6 neu FX3
O dan arweiniad Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd y gyfres, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthynas ymddiriedus gyda’n cyfranwyr. Byddwch hefyd yn cyfrannu i’r broses gynllunio, siapio'r gyfres a golygu offline.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
Gwybodaeth Ychwanegol
Lleoliad: Amwrywiol (Gogledd Cymru)
Cytundeb: I ddechrau yn syth.
Oriau: Llawn amser
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Ymgeiswch trwy yrru CV ac llythyr atodol at info@slam-media.co.uk
Y Llinell Las: Cynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu (Self-Shooting AP)
Cysylltiad Y Llinell Las: Cynhyrchydd Cynorthwyol Hunan-Saethu (Self-Shooting AP)