Rheolwr y Wasg a'r Cyfryngau
Rheolwr y Wasg a'r Cyfryngau
Trosolwg:
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol – un o brif wyliau a mentrau cymunedol Cymru – yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r tîm cyfathrebu. Bydd y rôl yn cynnwys hyrwyddo’r digwyddiad blynyddol a rhannu straeon sy’n amlygu rôl yr Eisteddfod – sefydliad sy’n dathlu popeth Cymreig, a chyfrannu at ddatblygiad diwylliant Cymru.
Fel Rheolwr y Wasg a’r Cyfryngau, byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a deinamig i ddatblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Teitl: Rheolwr y Wasg a’r Cyfryngau
Contract: Llawn amser, parhaol
Lleoliad: Hyblyg
Cyflog: £35,806-£37,988
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol – un o brif wyliau a mentrau cymunedol Cymru – yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r tîm cyfathrebu. Bydd y rôl yn cynnwys hyrwyddo’r digwyddiad blynyddol a rhannu straeon sy’n amlygu rôl yr Eisteddfod – sefydliad sy’n dathlu popeth Cymreig, a chyfrannu at ddatblygiad diwylliant Cymru.
Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, gan deithio o ardal i ardal, yn ymweld â’r gogledd a’r de bob yn ail. Mae’n gyfle i gymunedau ledled Cymru groesawu miloedd o ymwelwyr dros gyfnod o wyth niwrnod.
Fel Rheolwr y Wasg a’r Cyfryngau, byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a deinamig i ddatblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys cyfrannu at sianelau cyfryngau cymdeithasol, paratoi cylchlythyrau, a meithrin cysylltiadau â gwleidyddion a rhanddeiliaid allweddol.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â pherthynas gadarn â’r wasg a’r cyfryngau, profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu, a sgiliau cyfathrebu rhagorol – yn ysgrifenedig ac ar lafar – yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y gallu i feithrin perthnasau cryf gyda phartneriaid allweddol yn hanfodol.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol o flwyddyn i flwyddyn, yn ogystal â busnesau’r ardal, gan annog cyfraniad lleol i ŵyl genedlaethol sy’n cynnig blas Cymreig unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd pobl Cymru.
Mae tîm yr Eisteddfod yn gweithio mewn ffordd hyblyg ac yn cynnig nifer o fuddion deniadol.
Datganiad Cyfle Cyfartal: Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn derbyn gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010, ynghyd â deddfwriaethau eraill perthnasol a’u goblygiadau. Mae gweithdrefnau mewn lle i oresgyn gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae polisïau Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg.
I drafod yn anffurfiol, i gael copi o friff yr ymgeisydd neu i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â thîm Penodi ar 07385 502078 neu helo@penodi.cymru.
Dyddiad cau: 29 Mai 2025
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr y Wasg a'r Cyfryngau
Cysylltiad Rheolwr y Wasg a'r Cyfryngau