Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net 

Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net 

Trosolwg:

Oes gennych chi angerdd dros Ogledd Cymru ac awydd i weld y rhanbarth yn tyfu ac yn cyflawni ei botensial? Ydych chi'n frwdfrydig, ymroddedig ac yn chwaraewr tîm? Os felly, gallai'r rôl Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net hwn sy'n darparu trefniadau gweithio hyblyg, model gweithio hybrid, hawl gwyliau blynyddol hael, a chyfleoedd datblygu proffesiynol mewn tîm cyfeillgar bach o fewn amgylchedd cefnogol – fod yn rôl i chi!

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Uchelgais Gogledd Cymru
Cyflog: £58,121 - £61,311 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 20/01/2025 (2 diwrnod)
Amser Cau: 10:00:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Teitl swydd - Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net 

Lleoliad - Llandudno, LL31 9RZ

Cyflog - £58,121 - £61,311 y flwyddyn

Cyfnod - Parhaol/llawn amser

Oes gennych chi angerdd dros Ogledd Cymru ac awydd i weld y rhanbarth yn tyfu ac yn cyflawni ei botensial? Ydych chi'n frwdfrydig, ymroddedig ac yn chwaraewr tîm? Os felly, gallai'r rôl Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net hwn sy'n darparu trefniadau gweithio hyblyg, model gweithio hybrid, hawl gwyliau blynyddol hael, a chyfleoedd datblygu proffesiynol mewn tîm cyfeillgar bach o fewn amgylchedd cefnogol – fod yn rôl i chi!

Rydym yn chwilio am reolwr rhaglen profiadol a deinamig i weithio fel rhan o'n Tîm Arweinyddiaeth. Oes gennych chi sgiliau rhyngbersonol rhagorol? Ydych chi'n angerddol am ddatgarboneiddio a chryfhau statws Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer ynni carbon isel?  

Yn y swydd unigryw hon byddwch yn chwarae rhan annatod wrth ddatgarboneiddio economi'r rhanbarth mewn ffordd sy'n dod â buddsoddiad i mewn, yn creu swyddi a thwf cynaliadwy. Bydd y rôl yn rhoi cyfle i chi weithio gydag ystod eang o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, y llywodraeth, y sector breifat a'n prifysgolion a'n colegau.

Fel Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net gyda Uchelgais Gogledd Cymru, bydd rhai o'ch cyfrifoldebau yn cynnwys:

1.              Arwain Rhaglen Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru a'i ystod amrywiol o brosiectau trawsnewidiol, gan gynnwys dylunio, trafod a chynllunio

2.              Arwain Tîm Ynni Uchelgais Gogledd Cymru;

3.              Cydweithio â phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i gydlynu'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol a'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol 

4.              Datblygu, trafod, a chytuno ar achosion busnes prosiect 

5.              Goruchwylio'r gwaith o gyflawni prosiectau, gan gynnwys dylunio a chynllunio prosiect, gweithredu a chwblhau;

6.              Cyflawni canlyniadau a thargedau unigol a chronnol ar amser ac o fewn adnoddau a ddyrannwyd;

7.              Cydlynu cynllunio ar y cyd a rhyng-ddibynnol a gweithredu prosiectau o fewn y Cynllun Twf, gan gynnwys rheoli risg a gwireddu buddion;

8.              Cyfrannu at weithredu'r Weledigaeth Twf rhanbarthol a'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol.

Yn Uchelgais Gogledd Cymru, rydym yn chwilio am Reolwr Rhaglen Ynni a Sero Net sydd â'r canlynol:

1.              Addysgwyd i lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol;

2.              Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r sector;

1.              Sgiliau arwain, rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol;

2.              Gwybodaeth ymarferol dda o ddulliau rheoli rhaglenni a phrosiectau;

3.              Dealltwriaeth o arferion rheoli ariannol a chaffael; 

4.              Sgiliau trafod lefel uchel gan gynnwys sicrhau cymeradwyaeth o fewn trefniadau llywodraethu cymhleth;

5.              Profiad o ymgysylltu effeithiol â'r cyhoedd/rhanddeiliaid;

6.              Tystiolaeth a chofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus;

7.              Profiad blaenorol o reoli staff;

8.              Profiad o ddarparu rhaglenni a/neu brosiectau llwyddiannus o fewn y dyddiad cau ac i gyllideb o fewn y sector

9.              Profiad o flaenoriaethu cyfleoedd strategol a sicrhau consensws ar gyfer dewis prosiectau;

10.           Profiad o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus o fewn yr amserlen a’r gyllideb.

Mae'r tîm wedi mabwysiadu model gweithio hybrid gyda chymysgedd o weithio o swyddfa Cyffordd Llandudno a gweithio o gartref. Byddwch yn derbyn cyflog o £58,121 – £61,311 y flwyddyn ynghyd ag aelodaeth o'r cynllun pensiwn llywodraeth leol a hawl gwyliau blynyddol hael. Mae hon yn swydd llawn amser gydag Uchelgais Gogledd Cymru; Fodd bynnag, byddwn yn ystyried ceisiadau gweithio hyblyg ar gyfer y person cywir. Mae hwn yn gytundeb parhaol. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am ar 20/01/2025. Bydd angen cyflwyno'r holl ddogfennau cais erbyn y dyddiad hwn. Wrth wneud cais, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ynglŷn â'r y broses ymgeisio. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3ydd o Chwefror 2025.

Os yw hyn yn swnio fel rôl Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net i chi, cliciwch y botwm ymgeisio ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi gyda'r camau nesaf yn y broses ymgeisio. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych. Mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio a gallech chwarae rhan allweddol wrth lunio ei dyfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cymraeg i Blant Arfon (Cyfnod Mamolaeth a Thymor Ysgol yn Unig)

Busnes Cymru - Cynghorydd Datblygu Busnes

Swyddog Systemau Gwybodaeth