Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd
Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd
Trosolwg:
Goruchwylio gweithgareddau Banc Bwyd Arfon, gyda golwg ar ei effeithlonrwydd gweithredol a’i safonau yn unol â model masnachfraint Ymddiriedolaeth Trussell. Mewn partneriaeth â’r grŵp llywio ac yn atebol i’r ymddiriedolwyr: arwain y gwaith o ddatblygu prosiect y banc bwyd, gan gynnwys ei adnoddau materol, ei asedau ariannol, ei enw da, ei bartneriaethau a’r corff gwirfoddolwyr.
Disgrifiad:
Disgrifiad swydd: Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd
- Yn atebol i: Ymddiriedolwyr Banc Bwyd Arfon
- Yn gyfrifol am: Goruchwylio gweithgareddau Banc Bwyd Arfon
- Cyflog: £35,000
- Rhan-amser: 35 awr yr wythnos
- Lleoliad: Cyfuniad o weithio gartref, gweithio yn y banc bwyd, a digwyddiadau rhwydweithio a chasglu
- Hyd y contract: Swydd am flwyddyn gyda chyfnod prawf o dri mis. Adnewyddir y contract ar yr amod y bydd cyllid ar gael
Cyfrifoldeb cyffredinol y swydd:
Goruchwylio gweithgareddau Banc Bwyd Arfon, gyda golwg ar ei effeithlonrwydd gweithredol a'i safonau yn unol â model masnachfraint Ymddiriedolaeth Trussell. Mewn partneriaeth â'r grŵp llywio ac yn atebol i'r ymddiriedolwyr: arwain y gwaith o ddatblygu prosiect y banc bwyd, gan gynnwys ei adnoddau materol, ei asedau ariannol, ei enw da, ei bartneriaethau a'r corff gwirfoddolwyr.
Cyfrifoldebau penodol:
Adrodd i’r Ymddiriedolwyr
-Adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen bob chwarter neu mewn unrhyw gyfarfodydd arbennig y bydd yr ymddiriedolwyr yn eu galw
-Rhoi gwybod i’r ymddiriedolwyr am ddigwyddiadau eithriadol, megis cwynion, cysylltiadau pwysig â'r wasg, damweiniau, gwerthusiadau allanol, risg i enw da neu unrhyw ymrwymiadau ariannol
Datblygu strategol
-Galw cyfarfodydd o’r grŵp llywio gwirfoddolwyr o leiaf chwe gwaith y flwyddyn, gan ddarparu adroddiad ymlaen llaw ac agenda
Cydymffurfio ag Ymddiriedolaeth Trussell
-Cydymffurfio â thelerau masnachfraint y banciau bwyd, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol
Cyfathrebu
-Cynnal cyfrif i’r banc bwyd ar ffôn ac e-bost
-Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau, gan ymateb ar ran y banc bwyd gyda chymorth y gweinyddwr
Shifftiau a Gwirfoddolwyr y Banc Bwyd
-Rheoli shifftiau’r banc bwyd yng Nghanolfan Gwyrfai
-Cysylltu ag arweinwyr shifftiau i fonitro safonau gweithredu
-Cefnogi gwirfoddolwyr yn y banc bwyd a staff a neilltuwyd i waith datblygu
Storfa Bwyd
-Ymweld â’r warws yn rheolaidd
-Cysylltu â rheolwr y warws i fonitro effeithlonrwydd gweithredu
-Cefnogi rheolwr y warws i fonitro Iechyd a Diogelwch, gan sicrhau cydymffurfiad â gofynion statudol ac arfer da
Cyflenwadau bwyd
-Cysylltu â rheolwr y warws i fonitro lefelau stoc, gan gyhoeddi apeliadau yn ôl yr angen
Data
-Ymgyfarwyddo â'r system ddata ar-lein, gan fonitro'r dangosyddion data allweddol
-Cefnogi gwirfoddolwyr data a staff i sicrhau data rheolaidd a chywir o stoc a thalebau
-Echdynnu data ar gyfer adroddiadau i'r grŵp llywio a'r ymddiriedolwyr
Asiantaethau
-Datblygu cyfathrebu rheolaidd gydag asiantaethau atgyfeirio
-Nodi pwyntiau lle gellir cydweithio a chysylltu ag asiantaethau atgyfeirio
-Gwahodd mwy o asiantaethau i ddod yn bartneriaid atgyfeirio
Cynhwysiant ariannol
-Rheoli staff a gwirfoddolwyr sy'n cynnig gwasanaeth mynegbostio o fewn y banc bwyd
-Annog arferion gorau wrth ddarparu cefnogaeth i’r rhai sy’n ymweld â’r banc bwyd
-Dysgu am y datblygiadau diweddaraf ym meysydd budd-daliadau, grantiau caledi, cyngor ariannol, a gwasanaethau ategol eraill ar gyfer y rhai sy’n ymweld â’r banc bwyd
-Cysylltu â phartneriaid sy'n darparu cyngor ariannol fel Cyngor ar Bopeth a Christnogion yn Erbyn Tlodi
-Darparu adroddiadau i gyllidwyr, y grŵp llywio ac ymddiriedolwyr ynghylch y rhaglen cynhwysiant ariannol
Cysylltiadau Cyhoeddus
-Paratoi a chyhoeddi cylchlythyrau i gynnal diddordeb cefnogwyr a phartneriaid
-Cyhoeddi datganiadau i'r wasg fel y bo'n briodol, ac ymateb i ymholiadau gan y wasg leol
Cyllid
-Cydymffurfio â pholisi cyllid y banc bwyd.
-Cysylltu â'r grŵp llywio i nodi adnoddau i'w prynu'n ganolog
-Rhoi manylion taliadau a derbynebau i'r trysorydd gwirfoddol, ynghyd â dogfennau ategol, er mwyn galluogi cyfrifyddu priodol
Codi Arian
-Goruchwylio staff a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â chodi arian
-Adolygu cyfleoedd i ennill arian grant yn rheolaidd
-Goruchwylio apeliadau uniongyrchol rheolaidd i fusnesau lleol, elusennau, grwpiau dinesig, eglwysi/capeli a thrigolion lleol
-Cyflwyno adroddiadau cyllid chwarterol i'r grŵp llywio a'r ymddiriedolwyr
Sicrhau Ansawdd
-Monitro barn rhanddeiliaid
-Ysgwyddo cyfrifoldeb am yr ymweliad Sicrhau Ansawdd blynyddol gan Ymddiriedolaeth Trussell
Manyldeb Person
Profiad
-Profiad o reoli gwirfoddolwyr mewn elusen
-Profiad o weithio gyda phobl o sawl cefndir gwahanol
-Profiad o arwain timau lluosog
-Profiad o gydbwyso disgwyliadau gwahanol randdeiliaid
-Profiad o reoli cyllid sefydliad
-Bod yn gyfarwydd ag eglwysi a Christnogion o wahanol enwadau
Sgiliau Allweddol
-Gwrando’n astud a chydymdeimladol ar eraill
-Gallu rheoli a monitro’r gwaith o ddatblygu prosiect
-Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da
-Defnyddio rhaglenni e-bost, dogfen a thaenlen, a'r rhyngrwyd, yn hyderus
-Gallu gweithio'n annibynnol a heb oruchwyliaeth
-Medrus wrth gysylltu â phobl dros y ffôn
-Mae hyfedredd Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn ddymunol ond nid yw'n ofynnol
Nodweddion personol
-Wedi'i ysgogi gan yr awydd i osod pobl mewn amgylcheddau lle maent yn ffynnu
-Yn teimlo’n gryf am yr angen i drechu tlodi
-Hyblygrwydd mewn amgylchedd gwaith sy'n newid
Gofynion Eraill
-Gwiriad DBS
-Teithio achlysurol o fewn Arfon
-Teithio chwarterol i ddigwyddiadau Trussell yng Nghymru
Darperir hyfforddiant
-Hyfforddiant cynefino
-Hyfforddiant TG
-Hyfforddiant arall yn ôl yr angen
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd Rheolwr Prosiect Banc Bwyd Arfon
Ffurflen Gais Banc Bwyd Arfon
Arfon Foodbank Project Manager Job Description
Arfon Foodbank Application Form
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd
Cysylltiad Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd