Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig
Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig
Trosolwg:
Rydym yn awr ar ddechrau cyfnod cyffroes newydd wrth i ni ddatblygu prosiect Dyffryn Caredig gyda chefnogaeth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dilyn llwyddiant y Dyffryn Gwyrdd ac sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i daclo tlodi gwledig trwy ddarparu cludiant cymunedol gwyrdd.
Disgrifiad:

ORIAU GWAITH - 37 awr yr wythnos
Cytundeb – Saith mis yn y lle cyntaf (tan Hydref 31ain, 2025 yn y lle cyntaf)
Cyflog – £32,323.20 y flwyddyn
Disgrifiad Swydd
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad Canolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig
Cysylltiad Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig