Rheolwr Materion Rheoleiddiol

Rheolwr Materion Rheoleiddiol

Trosolwg:

Mae Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Rheolwr Materion Rheoleiddiol i ymuno â’r tîm.

Gan weithio fel rhan o dîm Ofcom Cymru ac ar draws cylch gwaith rheoleiddio Ofcom, mae’r Rheolwr Materion Rheoleiddiol yn cefnogi Cyfarwyddwr Cymru i gynrychioli Cymru yn Ofcom ac Ofcom yng Nghymru drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Ofcom Cymru
Cyflog: Cystadleuol
Dyddiad Cau: 29/01/2025 (11 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Penodi
Ffôn: 07385 502078
Lleoliad: Hybrid
Disgrifiad:

Mae Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Rheolwr Materion Rheoleiddiol i ymuno â’r tîm.

Gan weithio fel rhan o dîm Ofcom Cymru ac ar draws cylch gwaith rheoleiddio Ofcom, mae’r Rheolwr Materion Rheoleiddiol yn cefnogi Cyfarwyddwr Cymru i gynrychioli Cymru yn Ofcom ac Ofcom yng Nghymru drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru.

Er y byddwch yn gweithio ar draws cylch gwaith rheoleiddio Ofcom, bydd y rôl hon yn canolbwyntio’n benodol ar adeiladu a threfnu cefnogaeth gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru o amgylch ei cylch gorchwyl Diogelwch Ar-lein.

Mae’r rôl hon yn gyfle i lunio a diffinio rhan hanfodol o’i gwaith ac i gydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws Ofcom ac yng Nghymru i ddatblygu ein cysylltiadau â rhanddeiliaid a’n hymgysylltiad o fewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.

Mae tîm Ofcom Cymru yn croesawu gweithio hyblyg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n rhannu swydd a gweithwyr rhan amser.

Eich prif gyfrifoldebau

·        Byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Ofcom i fewnbynnu a chynghori ar y ffordd y mae gwasanaethau cyfathrebiadau yn cael eu darparu a'u derbyn yng Nghymru er mwyn dylanwadu ar ein prosesau polisi a gwneud penderfyniadau.

·        Goruchwylio a chydlynu perthnasoedd â rhanddeiliaid a sefydliadau proffil uchel yng Nghymru, gan gynnwys siarad ar ran Ofcom, er mwyn sicrhau bod ein cyfrifoldebau a'n cylch gorchwyl DU cyfan yn cael eu deall yn llawn.

·        Nodi cyfleoedd a strategaethau ymgysylltu priodol er mwyn helpu i adeiladu a rhoi ar waith perthnasoedd a phartneriaethau cynhyrchiol gyda rhanddeiliaid yng Nghymru.

·        Paratoi papurau briffio a mynychu cyfarfodydd lefel uchel ag aelodau o uwch dîm rheoli Ofcom a gwleidyddion allweddol (a rhanddeiliaid eraill) yn ôl yr angen, gan ddefnyddio gwybodaeth am y dirwedd wleidyddol ehangach yng Nghymru i helpu i lunio’r agenda a rheoli enw da Ofcom.

·        Meithrin a chynnal perthnasoedd mewnol gyda chydweithwyr arbenigol ar draws Ofcom i sicrhau eu bod yn deall anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau polisi a rheoleiddio er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl i bobl a busnesau yng Nghymru.

·        Cymryd cyfrifoldeb am gyflwyno digwyddiadau a chyhoeddiadau proffil uchel, yn ôl yr angen, sy'n rhoi cyfeiriad ac yn llywio polisi ar faterion rheoleiddio yng Nghymru.

·        Cyfrannu at lywodraethu Ofcom drwy weithio gydag Aelod Bwrdd Cymru a darparu cymorth i Bwyllgor Cynghori Cymru ac aelod Cymru o’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau, gan baratoi papurau, mynychu, a chyflwyno yn ôl yr angen.

·        Dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr Ofcom Cymru neu'r Prif Faterion Rheoleiddio yn ôl yr angen.

Yn Ofcom, mae amrywiaeth yn hollbwysig. Mae’r corff wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol, gan hyrwyddo amrywiaeth o bob math. Mae’r prosesau recriwtio yn hygyrch i bawb, ac mae Ofcom yn cefnogi patrymau gweithio hyblyg. Ymunwch ag Ofcom a gwnewch wahaniaeth mewn gwasanaethau cyfathrebu i bawb.

I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o friff yr ymgeisydd, cysylltwch â thîm Penodi ar 07385 502078 neu helo@penodi.cymru.

Dyddiad cau: Canol dydd ar 29 Ionawr 2025

Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg

Uwch-Reolwr Gweithrediadau a Chynhyrchu

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol