Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Marchnata

Rheolwr Marchnata

Trosolwg:

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Swyddog Marchnata llawn-amser i ymuno a’r tîm.

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Mae rôl y Rheolwr Marchnata yn allweddol i sicrhau bod pawb yn deall ein gwaith, ac yn gallu cymryd rhan ar adegau allweddol o'r flwyddyn. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwyth gwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.

Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â hanes o reoli gwefan, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu cryf; sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cyflog: £25,000 - £30,000
Dyddiad Cau: 29/11/2024
Amser Cau: 16:00:00
Enw Cyswllt: Claire Grabham
Ffôn: 02922 807420
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Swyddog Marchnata llawn-amser i ymuno a’r tîm.

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Mae rôl y Rheolwr Marchnata yn allweddol i sicrhau bod pawb yn deall ein gwaith, ac yn gallu cymryd rhan ar adegau allweddol o'r flwyddyn. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwyth gwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.

Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â hanes o reoli gwefan, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu cryf; sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod ynnhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gefnogaeth neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu i gwblhau eich cais - neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r sefydliad.

Sut i ymgeisio

Anfonwch eich CV atom a llythyr (dim mwy na dwy dudalen) yn nodi sut rydych chi'n bodloni'r Fanyleb Person erbyn 4pm ddydd Gwenner 29 Tachwedd i clairegrabham@nyaw.org.uk.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar Dydd Mawrth 10 Rhagfyr yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd. Dylech gadarnhau yn eich cais os nad yw'r dyddiad hwnnw'n bosibl i chi.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gwblhau Ffurflen Cyfle Cyfartal i'n helpu i fonitro cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi. Fel sefydliad cenedlaethol, rydym am i'n tîm staff fod yn gynrychioliadol o'r gymuned gyfan. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol yn y diwydiannau creadigol – gan gynnwys pobl o'r Mwyafrif Byd-eang, pobl D/byddar, pobl sy'n byw gydag anabledd, pobl niwroamrywiol, a'r rhai o gefndiroedd incwm is.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg o'r broses ymgeisio os gallwn gynorthwyo gydag unrhyw anghenion mynediad.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

Job Description

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd CBT Ar-lein Cymraeg

Rheolwr Gyfarwyddwr

Golygydd Comisiynu, Calon (gwasgnod)