Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Trosolwg:
Ymunwch â’n tîm i arwain y ffordd wrth ddatblygu, gweithredu a goruchwylio marchnata a chyfathrebu strategol.
Helpwch ni i dyfu ein brand, rhannu ein cenhadaeth, ac ymgysylltu â thimau mewnol, partneriaid allanol a’n cymunedau lleol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
· Llunio a chyflwyno ymgyrchoedd dwyieithog ar draws platfformau digidol, cyfryngau cymdeithasol, print a digwyddiadau
· Bod y llais i Menter Môn – creu cynnwys sy’n ysgogi
· Gweithio’n agos gyda staff, cymunedau lleol, y cyfryngau a rhanddeiliaid
· Olrhain ac adrodd ar effaith a llwyddiant ymgyrchoedd
Beth rydym yn chwilio amdano:
· Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
· Profiad mewn marchnata a chyfathrebu
· Sgiliau cryf mewn cynllunio, ysgrifennu copi, digidol a chyfryngau cymdeithasol
· Trefnus, creadigol, ac yn gallu jyglo sawl prosiect yn effeithiol
Pam Menter Môn?
· Mae swyddi Menter Môn yn cynnig y cyfle i chi weithio mewn gofod Cymraeg, lle mae’r iaith yn rhan gwbl naturiol o fywyd gwaith
· Fel rhan o becyn cyflogi cystadleuol, mae Menter Môn yn cynnig pensiwn Llywodraeth Leol (gyda Menter Môn yn cyfrannu tua 22%)
· Mwynhau gweithio hyblyg/hybrid mewn amgylchedd gefnogol
Disgrifiad:
Pwrpas y Rol
Yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a goruchwylio cynlluniau marchnata a chyfathrebu strategol i gefnogi brand, nodau ac amcanion Menter Môn yn fewnol ac ymhlith rhanddeiliaid allanol.
Cynllunio Strategol
· Datblygu a gweithredu strategaethau marchnata a chyfathrebu
· Alinio gweithdrefnau marchnata gyda gweledigaeth / nodau busnes grŵp Menter Môn
· Gweithio gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr ac Uwch Reolwyr i sicrhau bod negeseuon yn gyson, yn berthnasol ac yn effeithiol
Rheoli Brand
· Goruchwylio defnydd a chysondeb brand Menter Môn ar draws holl sianeli cyfathrebu a phob portffolio
· Cynnal ac esblygu canllawiau brand Menter Môn
Creu a Rheoli Cynnwys
· Datblygu dealltwriaeth o’r holl weithgareddau prosiect, a chefnogi timau wrth ddatblygu cynnwys ar gyfer llwyfannau digidol, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau a llyfrynnau
· Adnabod ac arwain ar straeon diddorol a pherthnasol
· Rheoli calendrau cynnwys ar draws pob platfform (cyfryngau cymdeithasol / gwefan ac ati)
Marchnata Digidol
· Gweithio gyda chontractwyr allanol i reoli cynnwys, dyluniad a pherfformiad ein gwefan
· Dadansoddi data analytig er mwyn uchafu ein hymdrechion marchnata digidol
Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
· Meithrin a rheoli perthnasau o fewn y cyfryngau
· Paratoi datganiadau i’r wasg a thrin ag ymholiadau’r cyfryngau
· Cydlynu cyfweliadau, digwyddiadau i’r wasg, ac ymddangosiadau cyhoeddus
Archwilio ac Arbrofi
· Mabwysiadu technegau arloesol i gyfathrebu negeseuon i wahanol gynulleidfaoedd. Disgwylir i’r deilydd swydd ddangos parodrwydd i roi cynnig ar ddulliau newydd
Rheoli Digwyddiadau
· Cefnogi a chydweithio â thimau wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau hyrwyddo, lansiadau cynnyrch, sioeau masnach, a gweminarau
Cyfathrebu Mewnol
· Cefnogi ymgysylltu mewnol trwy ddiweddariadau digidol, cylchlythyrau a chyhoeddiadau i staff
· Alinio negeseuon mewnol â diwylliant ac amcanion y cwmni
Arweinyddiaeth a Chydweithio
· Creu a rheoli perthnasoedd gyda’r holl staff – Cyfarwyddwyr, Rheolwyr, Swyddogion Prosiect a swyddogion cymorth
· Cydweithio a rheoli contractwyr allanol e.e. dylunio, cynhyrchu ffilmiau, rheoli digwyddiadau a chefnogaeth cyfathrebu cyffredinol
· Mynychu cyfarfod rheolwyr misol mewnol a chyfarfodydd strategol eraill lle bo hynny’n berthnasol
· Rheoli cyllidebau bach fel y cytunwyd â thimau prosiect
Cynrychioli’r Cwmni
Ymagwedd ragweithiol wrth ddatblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allanol i hyrwyddo’r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol ac yn genedlaethol
Arall
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn rhesymol gan reolwyr llinell a/neu’r Uwch Dîm Rheoli
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Cysylltiad Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu