Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Gyfarwyddwr
Rheolwr Gyfarwyddwr
Trosolwg:
Mae cwmni Byw’n Iach yn awyddus i recriwtio unigolyn arbennig i arwain y cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae angen arweinydd galluog, profiadol a deinamig. Mae’n gyfle cyffroes i arwain tîm arbennig a datblygu’r gwasanaethau bresennol. Os ydych chi’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant cymunedau lleol, cymerwch olwg ar y pecyn gwybodaeth a chysylltwch am sgwrs os am wybod mwy.
Disgrifiad:
Teitl Swydd: Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Byw’n Iach
CYFLOG: £67,603 - £70,841
LLEOLIAD: Caernarfon
Cyfeirnod: 24-27850
Mae cwmni Byw’n Iach yn awyddus i recriwtio unigolyn arbennig i arwain y cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae angen arweinydd galluog, profiadol a deinamig. Mae’n gyfle cyffroes i arwain tîm arbennig a datblygu’r gwasanaethau bresennol. Os ydych chi’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant cymunedau lleol, cymerwch olwg ar y pecyn gwybodaeth a chysylltwch am sgwrs os am wybod mwy.
Mae gan Cwmni Byw’n Iach becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cwmni Byw’n Iach yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r cwmni i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cyswllt: Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Amanda Davies ar 01286 679170
Cyfweliadau: I'w cynnal yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 27.01.2025. Mae'n bosib y bydd angen cwblhau asesiad yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 20.01.2025
Ffurflenni cais a manylion pellach: Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 15fed o Ionawr, 2025
Bydd y cwmni’n gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth
Information Pack
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Gyfarwyddwr
Cysylltiad Rheolwr Gyfarwyddwr