Rheolwr Gweithrediadau a Chymorth Arloesi i Fusnesau
Rheolwr Gweithrediadau a Chymorth Arloesi i Fusnesau
Trosolwg:
Cefnogi tenantiaid M-SParc i ffynnu, meithrin cymuned fusnes gref, a rheoli gweithrediadau’r pencadlys, gan sicrhau amgylchedd diogel a glân, arwain y tîm a hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Nodyn: Dyma ddisgrifiad o swydd uwch a rheolaethol sy’n cynnwys dyletswyddau sy’n ymwneud â Gweithrediadau. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n teimlo y gallant gyflawni’r elfennau Cymorth Busnes a Chymuned ar eu liwt eu hunain. Felly, rydym wedi darparu Disgrifiad Swydd ar wahân ar gyfer y swydd honno (Swyddog Busnes ac Arloesi) ar ein gwefan. Adolygwch y ddau ddisgrifiad swydd a gwnewch gais am y mwyaf priodol, gan ystyried eich sgiliau a’ch profiadau.
Pwrpas y Swydd
• Cefnogi busnesau tenantiaid yn M-SParc i ffynnu, arloesi a llwyddo drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cofleidiol.
• Datblygu ymdeimlad cryf o gymuned o amgylch M-SParc ar gyfer yr ecosystem o fusnesau, aelodau, partneriaid a rhanddeiliaid.
• Arwain ar weithrediadau ein pencadlys o ddydd i ddydd, gan oruchwylio’r tîm gweithredol, sicrhau amgylchedd gweithio glân a diogel a hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid ar draws y busnes.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau; Gweithredol
• Darparu dyletswyddau rheoli llinell i weithwyr M-SParc, gan gynnwys y dderbynfa, cyfleusterau a chontractau a’r swyddogaeth fasnachol.
• Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr i sicrhau bod agweddau Gweithredol y Parc yn cael eu cynnal yn effeithiol.
• Sicrhau lefel eithriadol o Wasanaeth a Chymorth i Gwsmeriaid ar draws y cwmni, ac arwain y gwaith o weithredu ein Polisi Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
• Arwain ar reoli contractau ar gyfer M-SParc i gyflenwyr allweddol o safbwynt Rheoli Cyfleusterau.
• Goruchwylio’r gwaith o gaffael / tendro contractau gwaith yn ôl yr angen, gan gynnwys cysylltu â Phrifysgol Bangor ynghylch gweithredu rhai contractau, gan gynnwys lifftiau, systemau tân a boeleri, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
• Cefnogi’r tîm gweithredol i ddarparu digwyddiadau allanol yn M-SParc, a threfnu digwyddiadau mewnol.
• Sefydlu systemau cadarn ar gyfer gweithredu ein hail adeilad yn effeithiol – Egni.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau; Y Gymuned
• Byddwch yn gweithredu fel Rheolwr Cymunedol ar gyfer M-SParc, gan ddatblygu ymdeimlad cryf o gymuned rhwng tenantiaid, tenantiaid rhithwir, darparwyr cymorth a’n partneriaid fel ei gilydd.
• Byddwch yn arwain y gwaith o ailddychmygu ein digwyddiadau, ein digwyddiadau cymdeithasol a’n brecwastau i denantiaid, gan sicrhau eu bod yn cael digon o sylw ac yn adlewyrchu anghenion y tenantiaid.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau; Rheoli Strategol
• Cyfrannu at y broses cynllunio busnes drwy lunio cynlluniau ar gyfer cadw tenantiaid a defnyddio offer boddhad tenantiaid at ddibenion marchnata, gan gynnwys arolygon a phleidleisiau.
• Cyfrannu’n weithredol at gyfeiriad strategol y Cwmni fel rhan o brosesau sefydledig o adolygu busnesau.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau; Cymorth Arloesi a Busnes
• Gweithredu fel Rheolwr Cleientiaid ar gyfer tenantiaid, gan fynd i’r afael â’u hanghenion a sicrhau bod M-SParc yn mynd yr ail filltir i wasanaethu eu hanghenion.
• Gweithio mewn partneriaeth â’r tîm Cymorth Busnes presennol yn M-SParc i ddarparu gwasanaeth cofleidiol.
• Meithrin perthynas â chwmnïau sy’n denantiaid er mwyn deall eu hanghenion a bod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â nhw drwy weithredu uniongyrchol neu ddefnyddio pŵer yr ecosystem cymorth.
• Dangos ddiddordeb brwd yng ngwaith ein cwmnïau sy’n denantiaid, a chael dealltwriaeth o’u gweithgareddau er mwyn gallu gweld cyfleoedd wrth iddynt ddod i’r amlwg.
• Sefydlu anghenion tenantiaid, prosiectau a mentrau a sicrhau eu bod yn cael cymorth sydd ar gael gan ddarparwyr gwasanaeth presennol.
• Datblygu rhwydwaith o ddarpariaeth cymorth busnes yn y rhanbarth er budd y busnesau sydd yn y parc.
• Mewn achosion priodol, darparu cymorth busnes uniongyrchol yn ogystal ag atgyfeiriadau i wasanaethau sydd ar gael mewn mannau eraill.
• Cofnodi datblygiadau tenantiaid a thenantiaid rhithwir ar ein llwyfan Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid.
• Cymryd cyfrifoldeb am y llwyfan hwnnw, gan weithio gyda’r tîm cymorth busnes ehangach a defnyddio’r wybodaeth wrth negodi gyda thenantiaid a meithrin perthynas â nhw.
• Rhoi gwybodaeth berthnasol i denantiaid am y cymorth sydd ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU, cyrff ymchwil, buddsoddwyr ac Innovate UK.
• Mewn achosion priodol, cynorthwyo tenantiaid gyda’r broses ymgeisio am dendrau a chyllid neu roi gwybod iddynt ble a chan bwy y mae cymorth o’r fath ar gael.
• Cynnal cysylltiadau cryf gyda staff Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Innovate UK a’n heco-system o ddarparwyr cymorth.
• Sicrhau bod ein harbenigwyr o’r timau Sgiliau, Egni a Digidol yn cael eu cynnwys i gefnogi tenantiaid mewn sectorau penodol neu sy’n wynebu heriau penodol, lle bo hynny’n briodol.
Manyleb y Person:
Bydd yr ymgeisydd yn frwd dros y cyfleoedd arloesol sydd gan ogledd Cymru i’w cynnig ac yn cael ei ysgogi i gefnogi busnesau yn M-SParc a’n Tenantiaid Rhithwir i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Bydd y swyddog yn gadarnhaol am ymgysylltu â grwpiau eraill yn y rhanbarth, er mwyn cydweithio a darparu rhagor o gyfleoedd, a bydd yn meddu ar sgiliau pobl gwych i ddatblygu perthnasoedd gwaith cryf. Byddwch yn ymarferol eich meddwl, byddwch yn rhoi hwb i M-SParc ar lefel weithredol o ddydd i ddydd gan sicrhau bod cynllun rhagweithiol ar waith ar gyfer materion gweithredol, ond bod gennych egni ac ymdrech i ddatrys problemau wrth iddynt godi.
Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau - Hanfodol
• Gradd berthnasol a/neu brofiad o Reoli Prosiectau a/neu Fusnes a/neu Gymorth i Fusnesau.
Dymunol; Addysg, Hyfforddiant A Chymwysterau:
• Cymhwyster ym maes Cyllid
• Hanes llwyddiannus o feithrin perthnasoedd gwaith cryf, rhwydweithio a gallu cynrychioli M-SParc yn hyderus yn y rhanbarth.
• Profiad o weithio ar gontractau Rheoli Cyfleusterau a Chyflenwyr.
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
• Profiad o weithio yn y sector Cefnogi Busnes ac arwain ar brosiectau pan fo angen.
• Gallu gweithio fel aelod o dîm, gan adnabod cyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr ac ychwanegu gwerth lle bo hynny’n bosibl.
• Profiad o gyflwyno i grwpiau amrywiol ar-lein a/neu wyneb yn wyneb.
• Sgiliau TG rhagorol, a pharodrwydd i ddysgu systemau newydd ac addasu iddyn nhw.
• Gallu cyfathrebu’n Gymraeg.
• Mae profiad o weithio mewn rôl sy’n ymwneud â diwydiant yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.
• Gallu cydlynu prosiectau heb fawr ddim goruchwyliaeth.
• Profiad o weithio gyda’r byd academaidd i ddatblygu prosiectau a rhaglenni newydd.
Hanfodol; Profiad a Gwybodaeth
• Profiad o weithio gyda busnesau a dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes
• Profiad o Reolaeth Weithredol ar gyfleuster neu fusnes o ddydd i ddydd.
• Profiad neu wybodaeth am brosesau arloesi
• Meddu ar brofiad ym maes cyllid a rheoli busnesau
• Canolbwyntio ar wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a gallu meithrin perthynas hirdymor â’r gymuned fusnes
• Meddu ar sgiliau TG rhagorol a dealltwriaeth o feddalwedd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
• Gwybodaeth am y Broses Cynllunio Busnes
• Profiad o weithio gyda chyllidebau a pharatoi adroddiadau gan gynnwys adroddiadau ariannol
• Bod yn gyfforddus yn gweithio fel aelod o dîm a gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl
• Gallu sgwrsio a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg
Hanfodol; Sgiliau/Galluoedd
• Sgiliau Dylanwadu a Rhwydweithio
• Gallu aros yn bwyllog o dan bwysau a chadw at ddyddiadau cau
• Sgiliau arwain a gweithio mewn tîm
• Agwedd hyblyg at weithio
• Sylw da i fanylion a sgiliau trefnu a rheoli amser
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Gweithrediadau a Chymorth Arloesi i Fusnesau
Cysylltiad Rheolwr Gweithrediadau a Chymorth Arloesi i Fusnesau