Rheolwr Gweithgaredd Cymunedol (Archif Ddarlledu Cymru)
Rheolwr Gweithgaredd Cymunedol (Archif Ddarlledu Cymru)
Trosolwg:
Datblygu a rheoli gwaith ymgysylltu trwy arwain rhaglen gyffrous o weithgareddau fydd yn annog pobl i ddefnyddio eitemau ffilm, fideo a sain o gasgliad Archif Ddarlledu Cymru.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Datblygu a rheoli gwaith ymgysylltu trwy arwain rhaglen gyffrous o weithgareddau fydd yn annog pobl i ddefnyddio eitemau ffilm, fideo a sain o gasgliad Archif Ddarlledu Cymru. Meithrin a datblygu perthynas â grwpiau cymunedol, unigolion, artistiaid a chwmnïau hyfforddiant. Comisiynu pobl i arwain gwaith creadigol a gwaith datblygu sgiliau ar draws Cymru a goruchwylio’r gwaith hwnnw. Cynnal perthynas weithredol gyda phartneriaid a sefydliadau eraill perthnasol. Arwain a rheoli tîm o swyddogion estyn allan a chydlynwyr gwirfoddoli i gyflawni gweithgareddau Archif Ddarlledu Cymru.
Archif Ddarlledu Cymru yw archif ddarlledu genedlaethol gyntaf gwledydd Prydain. Gyda chymorth nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, mae’n dod â chasgliadau BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru ynghyd am y tro cyntaf i ffurfio casgliad o tua hanner miliwn o raglenni Cymraeg a Saesneg sydd wedi’u darlledu ar deledu a radio dros gyfnod o ganrif. Yn 2024-25, byddwn yn rhoi mynediad i’r Archif Ddarlledu mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn ei chyflwyno trwy raglen o weithgareddau a digwyddiadau
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
Rheolwr Gweithgaredd Cymunedol (Archif Ddarlledu Cymru)
Cysylltiad Rheolwr Gweithgaredd Cymunedol (Archif Ddarlledu Cymru)