Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Gwasanaeth (Cynnal a Chadw)
Rheolwr Gwasanaeth (Cynnal a Chadw)
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i weithio gyda'r tîm Cynnal a Chadw. Mae'r tîm yn darparu'r holl waith atgyweirio a chynnal a chadw i eiddo gwag a thenantiaid ar gyfer y Grŵp, yn ogystal â gwneud gwaith buddsoddi drwy raglen gynlluniedig. Bydd y Rheolwr yn cymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am ddarparu buddsoddiad arfaethedig yn effeithlon ac effeithiol, atgyweiriadau ymatebol a gwaith eiddo gwag i sicrhau bod targedau ac amserlenni y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni neu eu rhagori arnynt.
Disgrifiad:
1. Darparu gwasanaeth sy'n dangos lefelau uchel o berfformiad, cost-effeithiolrwydd a gwerth i'r sefydliad.
2. Darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, o wneud pethau'n iawn y tro cyntaf.
3. Delio â chwynion cwsmeriaid drwy ddilyn polisi a gweithdrefn Grŵp Cynefin a rhoi gwersi a ddysgwyd ar waith.
4. Bod yn gyfrifol am gaffael a rheoli is-gontractwyr yn eich llif gwaith penodedig.
5. Rheoli a monitro perfformiad staff a chontractwyr/cyflenwr a chymryd camau cywiro pan fo angen.
6. Sicrhau bod digon o archwiliadau iechyd a diogelwch ar y safle yn cael eu cynnal, camau gweithredu yn cael eu cwblhau a chyflwyno adroddiad chwarterol i'r tîm rheoli.
7. Mynychu a chynrychioli'r tîm cynnal a chadw mewn cyfarfodydd corfforaethol traws-adrannol.
8. Monitro a rheoli costau o fewn eich llif gwaith penodedig.
9. Cynhyrchu adroddiadau clir a chryno ar gyfer y Rheolwr Atgyweirio a Chynnal a Chadw a'r tîm rheoli.
10. Ymdrechu bob amser i wella boddhad, codi safonau a lleihau cwynion.
11. Gweithio o fewn tîm rheoli cynnal a chadw i nodi a gweithredu meysydd gwella ac effeithlonrwydd.
12. Gweithio mewn partneriaeth ag adrannau a sefydliadau eraill yn ôl yr angen.
13. Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth i fodloni rhwymedigaethau a gweithredu arfer gorau i wella gwasanaethau.
14. Dangos ymrwymiad clir i gyfle cyfartal a gofal cwsmer ochr yn ochr ag arfer da, polisïau a chanllawiau sefydledig.
15. Arwain eich tîm trwy ysgogi, hyfforddi ac arfarnu.
16. Dangos a gweithredu rhagoriaeth Iechyd, Diogelwch, Ansawdd a'r Amgylchedd (HSQE) i amddiffyn staff, cwsmeriaid a darparwyr gwasanaethau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Gwasanaeth (Cynnal a Chadw)
Cysylltiad Rheolwr Gwasanaeth (Cynnal a Chadw)