Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Datblygu
Rheolwr Datblygu
Trosolwg:
Rheolwr Datblygu i gefnogi datblygiad y mudiad trwy gamau nesaf, ac i arwain ar fidiau am arian a buddsoddiad sylweddol.
Disgrifiad:
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn mynd trwy newidiadau mawr ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau dyfodol cadarnhaol a disglair i’r ynys a’i chymuned. O ganlyniad i waith estynedig gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ychwanegol wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Gronfa Adferiad Gwyrdd a CGGC, mae YYE bellach yn gobeithio penodi Rheolwr Datblygu i gefnogi datblygiad y mudiad trwy gamau nesaf y newidiadau hyn, ac i arwain ar fidiau am arian a buddsoddiad sylweddol. Darperir crynodeb byr o’r gwaith datblygu cychwynnol a wnaed hyd yma fel atodiad i’r ddogfen hon, ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar gais.
Bydd y swydd hon yn golygu gweithio’n agos â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff a chontractwyr eraill YYE, cymuned yr ynys a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn cyflawni’r gwaith hwn mewn modd cydweithredol.
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad
Role Description
Rheolwr Datblygu
Cysylltiad Rheolwr Datblygu