Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Datblygu (digwyddiadau, marchnata ac ymchwil)

Rheolwr Datblygu (digwyddiadau, marchnata ac ymchwil)

Trosolwg:

Dewch i ymuno â ni wrth i ni adeiladu hyb Graddedigion i Gymru!

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Darogan Talent
Cyflog: £37,500
Dyddiad Cau: 27/11/2023
Amser Cau: 09:00:00
Enw Cyswllt: Owain James
Ffôn: 07792904724
Lleoliad: Hyblyg
Disgrifiad:

Ymunwch â sefydliad sy’n gwneud penawdau am y rhesymau cywir, ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar y ‘draen dawn’ yng Nghymru.

Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous i Darogan Talent.

Rydym wedi derbyn buddsoddiad gan Equal Education Partners, mae ein rhestr o sefydliadau partner yn tyfu, mae gennym rai prosiectau cyffrous ar y gweill ac rydym wedi bod ar daith yn cyfarfod â myfyrwyr ledled y DU i roi gwybod iddynt am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

Ond efallai yn fwyaf cyffrous oll, rydym nawr yn chwilio am rywun i ymuno â'r tîm!

Amdanom ni

Darogan Talent yw Hyb Graddedigion Cymru sy’n rhoi myfyrwyr/graddedigion yng nghanol ein gwaith i gefnogi sefydliadau yng Nghymru i gael mynediad at dalent wych.

Rydym yn gwneud hyn drwy ein:

- Hysbysfwrdd swyddi, sy’n hysbysebu ystod o gyfleoedd yng Nghymru
- Ardal aelodau, sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i gysylltu â'i gilydd a chyflogwyr
- Digwyddiadau (ar-lein ac mewn person) sy'n hyrwyddo cyfleoedd yng Nghymru yn uniongyrchol i fyfyrwyr a graddedigion
- Cefnogaeth ymchwil ac ymgynghori

Am y rôl

Rydym wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Her ARFOR er mwyn ariannu’r rôl.

O ganlyniad, bydd y rôl hon yn cefnogi cyflawni prosiect ar gyfer rhanbarth ARFOR (Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin), a fydd yn gofyn am deithio i'r ardaloedd hyn, yn ogystal â phrifysgolion y tu allan i Gymru, i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y rhanbarth. Mae angen siaradwr Cymraeg ar y prosiect hwn ac felly rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen teithio'n achlysurol hefyd, a byddai mynediad i'ch cerbyd eich hun yn ddefnyddiol (ond nid yn hanfodol).

Fel busnes newydd, rydym hefyd yn chwilio am ymgeiswyr a all helpu i siapio'r cwmni o'i gamau cynharaf, a datblygu ei ddiwylliant, prosesau a strategaeth. Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn arweinydd yn y cwmni yn y dyfodol, ac a fydd yn y pen draw yn rheoli eraill wrth i ni dyfu. Byddai profiad perthnasol mewn diwydiant, felly, yn fanteisiol.

Mae Darogan Talent mewn cyfnod lle byddai amrywiaeth o sgiliau yn werthfawr. Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn gwirionedd yw dysgwr cyflym, a fydd yn fodlon troi eu llaw at ystod o dasgau, ac sy'n angerddol am y gwaith yr ydym yn ei wneud. Felly os oes gennych chi un neu ddau (neu fwy!) o’r sgiliau a’r profiad canlynol rydym am glywed gennych:

Trefnu digwyddiadau
Datblygiad busnes
Marchnata / Marchnata digidol
Cefnogaeth ymchwil ac ymgynghori
Profiad recriwtio
Ysgrifennu tendrau / cynigion
Prosesau cefn swyddfa
Cyllid / Cyfrifeg
UX / Dylunio gwasanaeth

Rydym wedi ein lleoli’n ffurfiol yng Nghaerdydd, ond gellir cyflawni’r rhan fwyaf o’r gwaith o bellter ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr ledled Cymru.

Pam dylech chi weithio i ni

Rydyn ni eisiau ymarfer yr hyn rydyn ni’n ei bregethu a chreu cyfleoedd cyflogaeth gwych yng Nghymru. Byddwn yn eich gwerthfawrogi ac yn rhoi eich lles yn gyntaf. Bydd gennych lawer o ryddid yn eich gwaith, a gallwch fwynhau'r ffaith eich bod yn cael effaith gymdeithasol fawr.

Byddwch hefyd yn derbyn y buddion canlynol:

- £37,500 o gyflog
- Wythnos waith 4.5 diwrnod (mae hyn yn cynnwys hanner diwrnod yr wythnos tuag at ddysgu a datblygu hefyd!)
- 25 diwrnod o wyliau (ac eithrio gwyliau banc)
- Cynllun bonws
- Gweithio o bell / hybrid

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV yn Gymraeg neu Saesneg at Owain James (owain.james@darogantalent.cymru), gyda llythyr eglurhaol yn Gymraeg yn esbonio:

Pam fod gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon
Sut byddech chi'n cefnogi Darogan Talent i ddatblygu a thyfu trwy eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad

Mae croeso i chi gysylltu i ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl neu i drefnu sgwrs anffurfiol.

Dyddiad cau: 9yb dydd Llun, 27 Tachwedd 2023

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Rheolwr Codi Arian Corfforaethol

Swyddog Busnes