Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh – dros gyfnod mamolaeth

Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh – dros gyfnod mamolaeth

Trosolwg:

Mae Mudiad Meithrin yn dymuno penodi Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh rhan amser, dros gyfnod mamolaeth. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon.  Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da ac mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth linell i staff perthnasol. Bydd y swydd yn addas i’r sawl sydd â sgiliau trefniadaeth cryf a’r gallu i reoli nifer o gynlluniau ar yr un pryd a’r gallu i ymateb yn sydyn ac o fewn terfynau amser a gwybodaeth gadarn am ddarpariaeth addysg gynnar a dysgu Cymraeg. 

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal wythnos yn dechrau 13.1.2025.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM33 £39,162 i MM42 - £49,152 (oriau llawn 37.5). Gwir gyflog ar sail gweithio 22.5 awr: MM33 £23,497 i MM42 £29,491
Dyddiad Cau: 05/01/2025
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd

Bydd Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Pennaeth Hyfforddiant, Datblygu a Dysgu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

•    Ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawniad a datblygiad Cynllun Clwb Cwtsh gan sicrhau fod targedau a gytunir gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael eu cyrraedd, a safonau uchel yr adran yn cael eu cadw.
•    Rheoli gwaith, a darparu arweiniad a chefnogaeth i holl staff y cynllun.
•    Gweithredu fel rheolwr llinell i Brif Swyddogion cynllun Clwb Cwtsh.
•    Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad gwaith.
•    Sicrhau fod gwaith yr adran yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
•    Cynnig arweiniad strategol a gweledigaeth ar gyfer cyflawni targedau cynlluniau Clwb Cwtsh
•    Adnabod cyfleoedd i ddarparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg DPP drwy Academi
•    Adnabod cyfleon i ehangu cwmpawd gwaith Mudiad Meithrin ym maes dysgu Cymraeg mewn cydweithrediad â’r Pennaeth adran a’r Prif Weithredwr.
•    Cyflwyno ceisiadau i gyllidwyr yn ôl yr angen er mwyn datblygu’r cynllun mewn cydweithrediad â’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr
•    Cydweithio â Rheolwyr eraill y Mudiad i adnabod cyfleoedd cydweithio a chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i deuluoedd ac mewn lleoliadau
•    Chwarae rhan ragweithiol yn nhîm rheoli Mudiad Meithrin gan fynychu a pharatoi at gyfarfodydd, cymryd rhan mewn trafodaethau am weithgaredd cyffredinol Mudiad Meithrin (tu hwnt i arbenigedd yr adran), rhaeadru gwybodaeth berthnasol i aelodau staff tîm yr adran.
•    Paratoi adroddiadau manwl ar gyflawniad gwaith yr adran i gyllidwyr ac i bwyllgorau rheoli/pwyllgorau Mudiad Meithrin yn ôl y galw.
•    Paratoi adroddiadau monitro yn ôl y galw.

Dyletswyddau perthnasol

•    Ar y cyd â’r Prif Swyddogion, sicrhau bod cyfundrefnau addas yn cael eu mabwysiadau a’u gweithredu fel bod cynllun gwaith addas gan bob swyddog.
•    Ar y cyd ag adran Gyllid Mudiad Meithrin a Phennaeth yr adran, sicrhau fod gweithdrefnau ariannol tynn yn cael eu cynnal er mwyn dangos llwybrau awdit eglur ar wariant y cynllun.
•    Ar y cyd â Rheolwr Marchnata Mudiad Meithrin, sicrhau bod strategaeth farchnata addas yn cael ei dyfeisio a’i gweithredu ar gyfer darganfod dysgwyr, hyrwyddo cynnydd y cynllun a chysylltu’r gwaith i strategaeth ehangach Mudiad Meithrin. Adrodd ar y canlyniadau i gyllidwyr a phwyllgorau fel bo angen.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Bydd deilydd y swydd yn:

•    Ymwybodol o waith y Mudiad ac  â dealltwriaeth gadarn o’n blaenoriaethau fel y gallant arwain ar y cynlluniau hyn yn hyderus ac effeithiol 
•    Meddu ar brofiad o  weithio yn y maes dysgu Cymraeg neu â’r gallu i ddysgu’n gyflym
•    Person effeithlon a threfnus yn weinyddol er mwyn gallu rheoli nifer o gynlluniau  yr un pryd, a’r gallu i ymateb yn sydyn ac o fewn terfynau amser. 
•    Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a phrosesu gwybodaeth a chanllawiau.
•    Y gallu i weithio’n annibynnol yn hyderus.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

Polisi Diogelu Plant

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Penodi Aelodau'r Cyngor - Cyngor Celfyddydau Cymru

Aelod Bwrdd

Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig