Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Cynhyrchu

Rheolwr Cynhyrchu

Trosolwg:

Rŷ’n ni’n chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Pennaeth Adran Cynhyrchu ac yn ymwneud â phob agwedd o waith y tîm cynhyrchu ar draws ystod o raglenni gan gynnwys Heno a Prynhawn Da.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Tinopolis
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 27/06/2025
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA15 3YE
Disgrifiad:

Rheolwr Cynhyrchu

Tinopolis

Tinopolis - Llanelli

Rŷ’n ni’n chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Pennaeth Adran Cynhyrchu ac yn ymwneud â phob agwedd o waith y tîm cynhyrchu ar draws ystod o raglenni gan gynnwys Heno a Prynhawn Da.

Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys rheoli’r tîm a’r adnoddau drwy’r broses gynhyrchu er mwyn cael y gwerth gorau i’r rhaglenni gan gynnwys amserlennu, trefnu criwiau, adnoddau allanol, ôl-gynhyrchu, iechyd a diogelwch a gwaith papur cyn ac ôl-gynhyrchu.

Sgiliau perthnasol: Y gallu i gyfathrebu, bod yn rhan o dîm, a chreu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol â sawl adran yn fewnol ac yn y diwydiant. Person trefnus, hyblyg sy’n gallu blaenoriaethu ac yn cynnig ateb i broblemau.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal. Ry’ ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: Mehefin 27ain 2025

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaled o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Cynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn dydd Gwener Mehefin 27ain 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler

http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Pennaeth Ymgysylltu â Pholisi

Cyfieithydd

Prif Gogydd / Goruchwyliwr Gegin