Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Cymru Fydd (Cyfnod Mamolaeth)
Rheolwr Cymru Fydd (Cyfnod Mamolaeth)
Trosolwg:
Prif pwrpas y swydd yw:
1) Rheoli ein prif adeilad, Cymru Fydd, yn cynnwys llogi stafelloedd
2) Rheoli ein cynllun Trafnidiaeth Cymunedol
3) Trefnu sesiynau cymdeithasu i bobl hyn, ynglwm a'n gwasanaeth trafnidiaeth
Disgrifiad:
Mae'r swydd wedi ei rhannu i dri phrosiect, y cyntaf yw rhedeg yr adeilad ‘Cymru Fydd’ sydd yn cynnwys canolfan cydweithio, llogi desgiau, llogi ystafelloedd cyfarfodydd, a chanolfan mentergarwch. Yr ail yw rhedeg ein gwasanaeth Trafnidiaeth Gymunedol Dyffryn Nantlle sef ‘O Fama I Fana’, sef gwasanaeth sydd yn darparu trafnidiaeth i unigolion i fynychu apwyntiadau, siopa bwyd, gweithgareddau ayyb. Ac yn drydedd i drefnu a chynnal sesiynau cymdeithasu i leihau unigedd i bobl dros 60 oed sef ‘Be Nawn Ni’.
Ceisio trwy CV a llythyr 2 tudalen A4, yn disgrifio eich profiad perthnasol a pham ydych chi eisiau ymuno a thim Yr Orsaf
Cyfweliadau ar Fawrth 7fed
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad Rheolwr Cymru Fydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Cymru Fydd (Cyfnod Mamolaeth)
Cysylltiad Rheolwr Cymru Fydd (Cyfnod Mamolaeth)