Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Cyllid Prosiectau
Rheolwr Cyllid Prosiectau
Trosolwg:
Bydd y Rheolwr Cyllid Prosiectau’n cydweithio’n agos â’r Rheolwr Cyllid Adnoddau i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn ar draws y sefydliad, gan rannu gwybodaeth a chyd-gysylltu gwaith monitro cyllidebol, cynllunio strategol ac adrodd ariannol gyda phwyslais ar ddarparu cyllidebau manwl ac adroddiadau ariannol cyson ar draws holl brosiectau’r elusen. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau, cydymffurfiad statudol, a chefnogaeth ariannol gadarn i’r uwch dîm rheoli a rheolwyr prosiectau.
Disgrifiad:
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:
Arwain ar baratoi, monitro a diweddaru cyllidebau prosiectau; sicrhau bod rheolwyr yn derbyn gwybodaeth fanwl, gywir ac amserol i wneud penderfyniadau gwybodus.
Cynhyrchu adroddiadau ariannol rheolaidd ar brosiectau a’u cyflwyno i reolwyr, ymddiriedolwyr, a rhanddeiliaid allweddol.
Cydlynu’r broses cynllunio ariannol ar gyfer prosiectau newydd ac adnewyddu cyllid.
Goruchwylio systemau ariannol GISDA (gan gynnwys SAGE, Advantage, Excel, a chyflogres), gan sicrhau eu bod yn effeithlon ac yn addas i’r diben.
Sicrhau cydymffurfiad llawn â deddfwriaeth berthnasol, safonau elusennol a gofynion archwilio.
Arwain ar ddatblygu, gweithredu a monitro polisïau ariannol y sefydliad.
Bod yn bwynt cyswllt allweddol gyda’r archwilwyr, trysorydd, a chyrff allanol gan gynnwys y Comisiwn Elusennau.
Rheoli’r broses gyflogres a’r cynllun pensiwn gyda chydweithrediad asiantaethau allanol lle bo’n berthnasol.
Darparu cefnogaeth ariannol strategol i’r Prif Weithredwr a’r uwch dîm rheoli.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd - Rheolwr Cyllid Prosiectau
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Cyllid Prosiectau
Cysylltiad Rheolwr Cyllid Prosiectau