Rheolwr Cyhoeddi

Rheolwr Cyhoeddi

Trosolwg:

Y swydd
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyhoeddi hynod drefnus sy’n canolbwyntio ar fanylion ac sy’n frwd dros weithio ar lyfrau lliw a mono i blant. Mae hon yn rôl bwysig ac amrywiol i ymgeisydd profiadol sydd â dealltwriaeth gadarn o’r broses olygyddol ac angerdd dros gefnogi timau cyn y wasg, i greu llyfrau o’r ansawdd uchaf ar amser, ac o fewn y gyllideb, ar gyfer gwasg arobryn, sy’n un o brif cyhoeddwyr llyfrau plant Cymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Gwasg Rily
Cyflog: £33,000 - £35,000
Dyddiad Cau: 18/07/2025 (5 diwrnod)
Amser Cau: 18:00:00
Enw Cyswllt: LYNDA TUNNICLIFFE
Ffôn: 07912448077
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Eich gwaith:
Byddwch yn ymuno â’r tîm ond yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyhoeddi i ddod â’n rhaglen gyhoeddi i blant yn fyw, gan hyrwyddo effeithlonrwydd a llywio cynnydd y llwybr critigol.
 
Byddwch hefyd yn rheoli tîm o olygyddion creadigol brwdfrydig, uchel eu cymhelliant, sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol. Bydd angen arweinyddiaeth, arweiniad a chyfathrebu rheolaidd ar eich tîm i sicrhau'r lefelau uchaf o allbwn o’r ansawdd gorau.
 
Gan weithio gyda’n brandiau eithriadol fel Bluey, Peppa Pig, Diary of a Wimpy Kid, Roald Dahl, a Disney, yn ogystal â’r llyfrau gwreiddiol rydyn ni’n eu creu ein hunain, byddwch yn aelod uwch ac allweddol o dîm Rily gyda ffocws ar gyhoeddi’r llyfrau plant gorau oll.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y sgiliau, profiad a'r wybodaeth ganlynol:
·         Dealltwriaeth ddofn o’r broses olygyddol a dylunio lliw o ddechrau prosiect hyd at ei gwblhau.
·         Siaradwr Cymraeg rhugl gyda sgiliau ysgrifennu o’r radd flaenaf yn yr iaith Gymraeg.
·         Profiad sylweddol mewn rôl rheoli prosiect tebyg.
·         Llygad craff am fanylion.
·         Person tîm, ond hefyd rhywun sy'n gallu gweithio’n annibynnol, gyda sgiliau pobl rhagorol.
·         Record profedig o reoli pob agwedd ar brosesau cyn-argraffu, gan gynnwys cydlynu testun a delweddau, a’r gallu i lunio, rheoli ac ail-negodi amserlenni yn unol â’r llwybr critigol.
·         Bod yn hunan-gymhellol a hynod hyblyg – yn hapus i symud rhwng prosiectau yn ôl yr angen a rheoli sawl prosiect yn effeithiol ar yr un pryd.
·         Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o feddalwedd berthnasol er mwyn rheoli nifer o brosiectau cymhleth ar yr un pryd.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Publishing Manager - Rily Publications

Rheolwr Cyhoeddi - Gwasg Rily

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cymorth Rhanbarthol x 4

Swyddog Gweinyddol a Marchnata

Rheolwr Dysgu a Datblygu (LDM) Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr