Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Cyffredinol
Rheolwr Cyffredinol
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyffredinol i ymuno â’n tîm ym Mhlas Tan y Bwlch yn llawn amser am gontract cyfnod penodol o flwyddyn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Rheolwr Cyffredinol
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog
Amdanom ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Cyffredinol i ymuno â’n tîm ym Mhlas Tan y Bwlch yn llawn amser am gontract cyfnod penodol o flwyddyn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £32,076 - £37,336 y flwyddyn
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel ein Rheolwr Cyffredinol, byddwch yn sicrhau bod sefydliad gwely a brecwast Plas Tan y Bwlch yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.
Byddwch yn rheoli tasgau o ddydd i ddydd y timau gweinyddol, y Rheolwr Arlwyo a’r Goruchwyliwr Glanhau, gan oruchwylio rotâu a sicrhau staffio digonol. Byddwch hefyd yn rheoli gwaith y Gofalwr a’r Garddwr.
Wrth ymgymryd â dyletswyddau ariannol, byddwch yn rheoli’r gyllideb, yn sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd, yn diweddaru cofnodion ariannol ac yn paratoi adroddiadau misol.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol
- Rheoli a diweddaru ein system archebu
- Cefnogi ein gweithgareddau marchnata a'n strategaeth
Amdanoch chi
I gael eich ystyried fel ein Rheolwr Cyffredinol, bydd arnoch angen:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o reoli yn y sector lletygarwch
- Profiad o waith gweinyddol mewn swyddfa brysur
- Profiad o oruchwylio a/neu gydlynu staff
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sy'n berthnasol i amgylchedd cyhoeddus, gyda phrofiad o lunio asesiadau risg
- Sgiliau trefnu da
- Trwydded Bersonol ar gyfer gwerthu alcohol
- NVQ Lefel 5 mewn busnes, marchnata neu gyfwerth
- Hyfedredd TG
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 4 Ionawr 2024.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Gwely a Brecwast, Rheolwr Hostel, Rheolwr Llety, Rheolwr Lletygarwch, Rheolwr ar Ddyletswydd, Rheolwr Blaen Tŷ, Rheolwr Blaen Tŷ a Chyfleusterau, neu Reolwr Gwesty.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Cyffredinol
Cysylltiad Rheolwr Cyffredinol