Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyfathrebu creadigol a strategol i arwain tîm cyfathrebu Traffig Cymru a helpu i lunio sut mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru.
Disgrifiad:
Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
CYFLOG: £44,711 - £46,731
ORIAU: 37 awr yr wythnos – swydd barhaol
LLEOLIAD: Aberystwyth, Bangor, Conwy, Helygain/Halkyn, Llandrindod a Drenewydd/Newtown – Hybrid
REF: 25-28416
Ynglŷn â’r Swydd
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyfathrebu creadigol a strategol i arwain tîm cyfathrebu Traffig Cymru a helpu i lunio sut mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth allweddol sy'n gofyn am gyfathrebwr rhagweithiol, blaengar sy'n gallu ymgorffori cyfathrebu effeithlon wrth wraidd darpariad y gwasanaeth.
Cyfrifoldebau Allweddol
Datblygu ac arwain strategaeth gyfathrebu genedlaethol sy'n gwella ymddiriedaeth y cyhoedd, yn cryfhau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn codi proffil Traffig Cymru.
Goruchwylio tîm o arbenigwyr cyfathrebu, gan reoli datblygiad staff a chwmpas gwasanaethau.
Cyflwyno cynnwys clir, dwyieithog ar draws cyfryngau cymdeithasol, sianeli digidol ac ymgyrchoedd cyhoeddus.
Cefnogi prosiectau seilwaith mawr ac ymatebion brys gyda chyfathrebiadau amserol ac effeithiol.
Cynnal perthynas gref â phartneriaid allweddol, gan gynnwys yr Asiantau Cefnffyrdd a Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Mae gan Gyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Pecyn Gwybodaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau’n ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol a nodir fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. (Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus gofynion ieithyddol y swydd a’r sefydliad.)
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Tom Cowans ar 07909 952 681.
Sut i Ymgeisio
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Wasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 19/06/2025 10:00 y.b.
Os byddwch yn llwyddiannus i gyrraedd y rhestr fer, byddwn yn cysylltu â chi trwy’r cyfeiriad E-BOST a nodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Sicrhewch eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
Cysylltiad Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru