Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Blaen Tŷ

Rheolwr Blaen Tŷ

Trosolwg:

Dyma gyfle cyffrous i reolwr trefnus, brwdfrydig, sydd a phrofiad ym maes lletygarwch, bwyd a diod a phrofiad cwsmer i ymuno â thîm Llofft. Bydd y person llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg hyderus ac yn gyfrifol am bob agwedd o reolaeth blaen tŷ gan gynnwys arwain tîm o staff a gweithwyr achlysurol, materion iechyd a diogelwch a hylendid. Bydd yn cydweithio'n agos gyda Phrif Gogydd a pherchnogion Llofft i fwyafu cyfleoedd busnes. 

 

Enw'r Cyflogwr: Llofft
Cyflog: £27,000 - £30,000 yn ddibynol ar brofiad a chymwysterau
Dyddiad Cau: 29/08/2024
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad: Llofft, Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli, Gwynedd, Cymru, LL56 4RQ
Disgrifiad:

Disgrifiad o’r Crynodeb

Teitl y Swydd: Rheolwr Blaen Tŷ,  Bar, Caffi, Cegin Llofft

Cyflog - £27,000  - £30,000  yn ddibynol ar brofiad a chymwysterau

Enw cyswllt: Elen ap Robert

Rhif ffôn: 07739554248

Ebost:  post@llofft.cymru

Trosolwg:

Dyma gyfle cyffrous i reolwr trefnus, brwdfrydig, sydd a phrofiad ym maes lletygarwch, bwyd a diod a phrofiad cwsmer i ymuno â thîm Llofft. Bydd y person llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg hyderus ac yn gyfrifol am bob agwedd o reolaeth blaen tŷ gan gynnwys arwain tîm o staff a gweithwyr achlysurol, materion iechyd a diogelwch a hylendid. Bydd yn cydweithio'n agos gyda Phrif Gogydd a pherchnogion Llofft i fwyafu cyfleoedd busnes. 

Disgrifiad o’r Manylion

Disgrifiad y Swydd: Rheolwr Blaen Tŷ Llofft

Math o gontract: Llawn amser parhaol

Lleoliad: Llofft, Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli LL56 4RQ

Amdanom ni

Mae Llofft yn ddatblygiad newydd sydd wedi bod ar agor ers blwyddyn yn dilyn cyfnod o adnewyddu hen adeilad ar lannau'r Fenai. Yn wreiddiol yn lofft hwyliau ar gyfer llongau llechi Y Felinheli, bu'r adeilad yn fecws a bwyty cyn i'r perchnogion newydd ei adnewyddu'n llwyr a'i droi yn far/caffi ar y llawr isaf a bwyty ar y llawr cynta. Ers iddo agor mae Llofft wedi gwneud enw iddo'i hun fel lle croesawgar gyda awyrgylch ac amgylchedd unigryw. Mae'r cynnig bwyd a diod wedi cael canmoliaeth a gwerthfawrogiad uchel, gyda bwydlen fach a phrydau arbennig wythnosol yn cael eu cynnig. Mae'r adolygiadau pum seren 'Google' a'r cwsmeriaid sy'n dychwelyd yn gyson yn brawf o safon y bwyd sy'n cael ei weini o gegin agored, gyda choginio gyda thân agored yn ganolog i'r cyfan. Mae coffi da yn rhan ganolog o brofiad LLofft gyda'r cyfan o'n bwyd a diod yn cael ei weini i olygfa drawiadol o'r Afon Menai ac Ynys Mon. Yn ogystal, mae Llofft yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer partion neu ddathliad arbennig. Mae digwyddiadau amrywiol hefyd yn digwydd yna, cerddoriaeth fyw, dangosiadau ffilm a chwaraeon ar sgrin fawr, a mae'n bosib llogi y gofod llawr cynta i gyfarfodydd neu ddefnydd preifat. 

Y Swydd: 

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn ymuno â thim bach, uchelgeisiol a brwdfrydig wrth i Llofft ddatblygu i'r dyfodol. Bydd disgwyl i'r Rheolwr Blaen Tŷ fod yn gyfathrebwr heb ei ail, yn chwaraewr tim o'r radd flaenaf ac yn arweinydd drwy esiampl. Rydym yn chwilio am berson trefnus, hyblyg sy'n gallu blaenoriaethu a chynnig atebion i broblemau. Bydd sylw i fanylder a'r gallu i gynnig gofal cwsmer o'r radd flaena yn hanfodol, a bydd profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd prysur ac o dan bwysa' yn fanteisiol. 


Mae’r gallu i gyfathrebu yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae mwy o fanylion yn y Swydd Ddisgrifiad. 

Dyddiad Cychwyn: Medi 2024

Lleoliad: Llofft, Ffordd Lan Y Mor, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4RQ

Cyflog £27-30k yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Ond oherwydd natur y swydd a phwysau tymhorol y diwydiant bydd disgwyl hyblygrwydd gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau pro -rata.

Pensiwn: Mae gan staff hawl i ymuno a chynllun pensiwn. Os byddwch yn aelod o gynllun pensiwn Llofft bydd Llofft yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Sut i ymgeisio: Dylid danfon datganiad i post@llofft.cymru, yn nodi pam eich bod yn meddwl eich bod yn addas ac yn gymwys ar gyfer y swydd hon ynghyd a CV, erbyn dydd Gwener, Awst 29ain.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, Awst 29ain, 5.00.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

Job Description

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Marchnata Cymdeithasol

Swyddog Ti a Fi Mynwy

Cyfieithydd