Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwy-ydd Ymchwil (Siaradwr Cymraeg) - Recriwtio ac Ymgysylltu

Cynorthwy-ydd Ymchwil (Siaradwr Cymraeg) - Recriwtio ac Ymgysylltu

Trosolwg:

Ydych chi'n angerddol am gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu? Yn Siaradwr Cymraeg rhugl?
Os ydych, yna gallai ein rôl Recriwtio ac Ymgysylltu yn Gymraeg fod yr union beth rydych chi'n chwilio amdano.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: TRP Research
Cyflog: O £24,570 y flwyddyn (cyfwerth ag amser llawn)
Dyddiad Cau: 28/03/2025
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Jen Murray-Smith
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Mae'r rôl hon yn rhan o'n tîm Mesuriadau. Mae'r tîm Mesuriadau yn creu ac yn gweinyddu holiaduron ar gyfer defnyddwyr wedi'u cynllunio i fesur defnydd, agweddau ac ymddygiadau o ran y cyfryngau. Mae'r defnydd o'r cyfryngau yn cynnwys teledu, ffrydio a radio, yn ogystal â'r cyfryngau cymdeithasol. Defnyddir y data a gesglir gan TRP Research i helpu ein cleientiaid i wneud penderfyniadau strategol a thactegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn cynnal nifer o baneli ar gyfer defnyddwyr gan gynnwys trpsurveys.com, surveypraeg.com, panelcyfryngau.cymru a mediaopinionsireland.ie.

Fel Cynorthwyydd Ymchwil Recriwtio ac Ymgysylltu, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o gydweithwyr i sicrhau bod gennym baneli sy'n gytbwys yn ddemograffig sy'n cynrychioli'r boblogaeth. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd prysur gyda therfynau amser dyddiol ac wythnosol felly mae'n bwysig eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn blaenoriaethu a gweithio mewn ffordd dan bwysau amser. Mae meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da hefyd yn allweddol gan y byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm Mesuriadau ehangach i sicrhau bod terfynau amser a nôdau cyffredinol y tîm yn cael eu bodloni.

Yn benodol, byddwch yn gyfrifol am:

Gyfathrebu gydag aelodau ein paneli, felly yn ymateb i ymholiadau sydd yn dod i
fewnflychau a negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn Gymraeg ac yn
Saesneg
▪ Ysgrifennu deunydd cyfathrebu, rhai rheolaidd ac ad hoc, ar gyfer anfon negeseuon ebost
a holiaduron, cynlluniau ymgysylltu, straeon newyddion ar wefannau a’n cyfryngau
cymdeithasol
▪ Cefnogi'r tîm Recriwtio ac Ymgysylltu, gan gynnwys creu syniadau i ymgysylltu ag
aelodau presennol y paneli a recriwtio aelodau newydd i'r panel
▪ Cefnogi'r tîm Mesuriadau ehangach i sicrhau bod holiaduron yn cael eu hanfon ar
amser

Bydd ein Cynllun Hyfforddi a Datblygu mewnol yn eich cefnogi ar eich taith wrth weithio i TRP Research. Mae aelodau presennol y tîm wedi datblygu o swyddi tebyg i swyddi uwch o fewn TRP Research.


Sgiliau a phrofiad

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
▪ Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
▪ Yn greadigol, ac yn wych am feddwl am syniadau y gellir eu trosglwyddo i gynnwys effeithiol ac atyniadol
▪ Yn gyfathrebwr effeithiol sy'n gallu teilwra'r deunydd cyfathrebu y maent yn eu cynhyrchu i wahanol gynulleidfaoedd a demograffeg
▪ Yn gyfarwydd ag ymgysylltu trwy adnoddau cyfryngau (e.e. Meta, Spotify)
▪ Rhywun sydd â gwybodaeth weithredol dda am Microsoft Office, yn enwedig Word ac Excel
▪ Yn gyfarwydd â photoshop, Canva neu debyg
▪ Profiad o weithio o fewn fframweithiau cydymffurfiaeth – e.e. GDPR, Cynlluniau Iaith Gymraeg

Nodweddion

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
▪ Yn allblyg, yn ymgysylltu’n dda ac yn frwdfrydig
▪ Gyda sgiliau pobl a rhwydweithio cryf
▪ Yn gyfathrebwr hyderus, clir a grymus
▪ Yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal fel rhan o dîm
▪ Yn gallu addasu a rheoli eu hamser yn dda, hyd yn oed pan fydd blaenoriaethau'n newid
▪ Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau clir a gweithio ar liwt ei hun a dangos blaengaredd pan fo angen
▪ Yn awyddus i ddatblygu

Y Cwmni

Yn TRP Research Ltd, rydym yn cyfuno ein gwybodaeth a'n harbenigedd o'r diwydiant cyfryngau â ffynonellau data presennol a gwreiddiol i greu ymchwil ystyrlon i'n cleientiaid. Mae ein tîm Mesur yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein staff i gyflawni hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Job description English

Job description Welsh

Application form

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Rhaglen

Swyddog Cyfathrebu

Swyddog Ymchwil a Datblygu