Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Reolwr Prosiect

Reolwr Prosiect

Trosolwg:

Mae'r Brifysgol yn chwilio am Reolwr Prosiect medrus a phrofiadol i ymuno â Thîm Cynllunio'r Brifysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni amrywiaeth o brosiectau strategol corfforaethol.  

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cyflog: £39,347 – £45,585 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 02/04/2025
Amser Cau: 23:59:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Mae'r rôl wedi'i lleoli ar ein campws yng Nghaerfyrddin a bydd angen gweithio ar draws y Brifysgol i gefnogi prosiectau a gweithgaredd tebyg i brosiectau, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau. Bydd cyfle i yrru newid a gwelliant trwy gymhwyso egwyddorion y cytunwyd arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau. Bydd y Rheolwr Prosiect yn darparu adroddiadau a diweddariadau cynnydd yn rheolaidd i noddwyr prosiect mewnol, yn ogystal â pharatoi adroddiadau ar gyfer cyrff allanol yn ôl yr angen.
Disgrifiad:

Campws Caerfyrddin

Bellach mae PCYDDS yn addysgu dros 16,000 o fyfyrwyr ar draws ei chwe champws yn y DU; pedwar yng Nghymru a dau yn Lloegr. Mae gan y Brifysgol bartneriaethau addysgol rhyngwladol hirsefydlog yn Ewrop, Tsieina, Malaysia, UDA a mannau eraill.  

Ein nod yw trawsnewid addysg ac felly trawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym eisoes yn cael ein cydnabod am ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr:

·      1af yng Nghymru a chydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, Gorffennaf 2024)

·      1af yng Nghymru am 7 pwnc ac yn 10 uchaf y DU am 3 phwnc (Guardian University League Table 2024)

Daw ein llwyddiant o ymrwymiad, sgil, gwybodaeth a gallu ein pobl i gydweithio. Bellach rydym yn adeiladu ar y diwylliant a’r ddarpariaeth gref hon i ddod yn ddarparwr blaenllaw o addysg uwch hygyrch.

- Y RÔL - 

Mae'r Brifysgol yn chwilio am Reolwr Prosiect medrus a phrofiadol i ymuno â Thîm Cynllunio'r Brifysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni amrywiaeth o brosiectau strategol corfforaethol.  Bydd y gwaith yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu blaenoriaethau allweddol drwy hwyluso a chymhwyso egwyddorion dull prosiect, defnyddio data i lywio penderfyniadau a rhoi mewnwelediad i feysydd gweithgarwch o fewn y sefydliad a all effeithio ar, neu gyfrannu at ddarparu gweithgareddau.  

Gyda dull rhagweithiol, cadarnhaol a ffocws ar ddatblygiad proffesiynol profiadol parhaus, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthnasoedd gwaith rhagorol ar draws y sefydliad gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid er mwyn sicrhau bod gofynion y prosiectau'n cael eu bodloni a'u cyflawni o fewn amserlenni.  Bydd angen iddynt ddatblygu dealltwriaeth o'r gweithgarwch craidd a'r ffactorau allweddol hynny sy'n sail i gyflawni ac effeithio ar ddarparu prosiectau busnes, gyda hyblygrwydd i addasu a chyfrannu'n effeithiol at amrywiaeth o anghenion ar draws y Brifysgol.  

Mae'r rôl wedi'i lleoli ar ein campws yng Nghaerfyrddin a bydd angen gweithio ar draws y Brifysgol i gefnogi prosiectau a gweithgaredd tebyg i brosiectau, fel rhan o’r gwaith o  ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau.  Bydd cyfle i yrru newid a gwelliant trwy gymhwyso egwyddorion y cytunwyd arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau.  Bydd y Rheolwr Prosiect yn darparu adroddiadau a diweddariadau cynnydd yn rheolaidd i noddwyr prosiect mewnol, yn ogystal â pharatoi adroddiadau ar gyfer cyrff allanol yn ôl yr angen.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanylion am y meini prawf hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. 

- Y Gymraeg -

Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

- Gwybodaeth ychwanegol -

Mae 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau pro rata

Am wybodaeth am ein buddion staff, copïwch a gludwch y ddolen hon i’ch porwr:  https://www.uwtsd.ac.uk/cy/amdanom/swyddi  

Gall y rôl hon fod yn gymwys i gael nawdd yn amodol ar ofynion trothwy cyflog y Swyddfa Gartref https://www.gov.uk/skilled-worker-visa/your-job  (gradd 5 neu’n uwch) 

Sylwer nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, bydd eich cais yn cael ei asesu yn seiliedig ar eich cais a’ch datganiad ategol 

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2025, 11:59yp

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ti a Fi Teithiol Rhyl, Rhuddlan a Dyserth

Rheolwr Cynllun Awel y Dyffryn

Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)