Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Rheolwr Cyfathrebu

Rheolwr Cyfathrebu

Trosolwg:

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Rheolwr Cyfathrebu.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Arolygiaeth Gofal Cymru
Cyflog: £35,787 - £43,758
Dyddiad Cau: 13/01/2025
Amser Cau: 16:00:00
Lleoliad: Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn y swyddfa ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.
Disgrifiad:

Rheolwr Cyfathrebu - Parhaol

Cyflog: MB2 - £35,787 - £43,758

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Rheolwr Cyfathrebu.

A oes gennych ddawn i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl ledled Cymru.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau gofal ledled y wlad yn cyrraedd y safonau uchaf o ran ansawdd a diogelwch. Drwy ymuno â'n tîm, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi llesiant y bobl yng Nghymru.

Fel Rheolwr Cyfathrebu, byddwch wrth wraidd ein hymdrechion i gysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid. Gan adrodd i Reolwr y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, byddwch yn arwain strategaethau ymgysylltu arloesol sy'n llywio newid cadarnhaol yn y sector gofal tra'n sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Lleoliad

Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn y swyddfa ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Goruchwyliwr Swyddfa Docynnau - Cymraeg Hanfodol

Cydlynydd Codi Arian

Rheolwr Materion Rheoleiddiol