Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Prif Weithredwr
Prif Weithredwr
Trosolwg:
Mae’r Prif Weithredwr yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o fewn y strwythur llywodraethiant a sefydlwyd o dan ei Siarter Frenhinol. Byddant yn cyflawni amcanion statudol y Siarter Frenhinol, ei swyddogaethau a'i ddyletswyddau cyffredinol yn ogystal ag arfer ei phŵer cyfreithiol.
Disgrifiad:
Mae Goodson Thomas yn falch iawn i ddod â’r cyfle gwych hwn i’r farchnad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y Llyfrgell Genedlaethol yw llyfrgell ac archif amlycaf Cymru, yn adnodd gwybodaeth enfawr ac yn drysorfa ar bob pwnc.
Mae’r llyfrgell yn un o’r chwe llyfrgell ‘adnau cyfreithiol’ yn y DU ac Iwerddon, gan roi breintiau statudol iddynt sy'n galluogi'r llyfrgell i gasglu cyfran uchel o allbwn cyfan cyhoeddiadau print yn y DU ac Iwerddon, gan gynnwys fformatau digidol.
Mae’r Prif Weithredwr yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o fewn y strwythur llywodraethiant a sefydlwyd o dan ei Siarter Frenhinol. Byddant yn cyflawni amcanion statudol y Siarter Frenhinol, ei swyddogaethau a'i ddyletswyddau cyffredinol yn ogystal ag arfer ei phŵer cyfreithiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Brofiad o arwain a rheoli sefydliad mawr drwy gyfnod o newid sylfaenol.
• Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cryf o waith a swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
• Bod yn feddyliwr strategol gyda'r gwytnwch i ysgogi newid parhaus mewn cyfnod heriol ac mewn amgylchedd o newid parhaus.
Mae’r gallu i siarad a darllen Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Os oes angen, darperir cefnogaeth a hyfforddiant priodol mewn Cymraeg ysgrifenedig.
I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â'n hymgynghorwyr o ran chwilio am swyddogion gweithredol Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu defnyddiwch y manylion yn botwm 'Anfon E-bost' uchod.
I ymgeisio, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol ar wefan Goodson Thomas.
Dyddiad cau: 12yh, 29 Tachwedd 2023
Dyddiad y cyfweliad: wythnos yn dechrau 11 Rhagfyr 2023
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
Prif Weithredwr
Cysylltiad Prif Weithredwr