Prif Weithredwr

Prif Weithredwr

Trosolwg:

Bydd yr unigolyn a benodir yn arweinydd profiadol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf gyda'r gallu i reoli yn effeithiol gydberthnasau cymhleth ac amrywiol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
Cyflog: £115,928 - £125,000 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 28/04/2025 (0 diwrnod)
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Llandudno, Conwy, Cymru, LL31 9RZ
Disgrifiad:

CYFLOG: £115,928 - £125,000

LLEOLIAD: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

Cyfeirnod: 25-28247

PRIF WEITHREDWR - CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU

Cyflog hyd at £125,000

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn bartneriaeth ranbarthol sydd yn cynnwys cynghorau Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Môn a Wrecsam, ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae ganddo weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth ym meysydd datblygu strategol, cynlluniau trafnidiaeth, a hybu lles economaidd y rhanbarth yn gyffredinol. Mae'r Cyd-bwyllgor yn agor pennod newydd yn ei hanes, wrth iddo ar y 1af o Ebrill sefydlu ei hun yn endid cyfreithiol a chyflogwr.

Er mwyn ei gefnogi i drosi'r weledigaeth yn realiti, mae’r Cyd-bwyllgor am benodi Prif Weithredwr a fydd yn gallu cydweithio’n agos ag arweinwyr gwleidyddol ac eraill i ddatblygu’r bartneriaeth ymhellach. Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am ddatblygu, llywio a gwireddu rhaglen o gynlluniau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y rhanbarth am genedlaethau i ddod.

Bydd yr unigolyn a benodir yn arweinydd profiadol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf gyda'r gallu i reoli yn effeithiol gydberthnasau cymhleth ac amrywiol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes clir o weithio ar lefel uchel, ac ar yr un pryd brofiad helaeth o ddatblygu timau a diwylliant sefydliadol sydd yn ffynnu ar gyflawni rhaglenni gwaith cymhleth. Mae’r her yn fawr ac yn gyfle cyffrous i unigolyn talentog sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl gogledd Cymru.

I drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, ar 01286 679002.

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Gwasanaeth Cefnogol, rhif ffon 01286 679076

Dyddiad cau: 10:00 y bore, dydd Llun yr 28ain o Ebrill 2025.

Mae'r gallu i gyflawni'r swydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl allweddol hon, a bydd angen i unrhyw ymgeisydd nad ydynt yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd ymrwymo i ddysgu’r iaith. Croesewir ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, a byddwn yn ymgymryd ag unrhyw gyfieithu ceisiadau ar gyfer aelodau’r panel penodi os oes angen.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Pennaeth Casgliadau Unigryw

Swyddog Cymunedol Chwaraeon, Caerdydd a'r Fro

Rheolwr Cyfathrebu