Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd y Cwmni

Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd y Cwmni

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a phrofiadol i lenwi rôl Prif Weithredwr a Ysgrifennydd y Cwmni. Bydd y rôl hon yn cyfuno arweinyddiaeth strategol gyda chyfrifoldebau llywodraethu, gan sicrhau twf parhaus a llwyddiant i Farmers Marts (R G Jones). Byddai’r ymgeisydd delfrydol yn arweinydd profiadol gyda cefndir busnes gadarn, yn enwedig o fewn y sector amaethyddiaeth, gwasanaethau proffesiynol, neu wasanaethau cysylltiedig â da byw.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Farmers Marts (R G Jones) Ltd
Cyflog: Cystadleuol, yn seiliedig ar brofiad
Dyddiad Cau: 30/06/2025
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: FARMERS MARTS (RG JONES) LTD
Ffôn: 01341422334
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

FARMERS MARTS (RG JONES) LTD

PRIF WEITHREDWR

Teitl y Swydd: Prif Weithredwr
Cwmni: Farmers Marts (RG Jones) Cyf
Lleoliad: Meirionnydd, Gogledd a Chanolbarth Cymru

Math o Gontract: Llawn amser
Cyflog: Cystadleuol, yn seiliedig ar brofiad
Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl

Amdanom Ni: 

Mae Farmers Marts (R G Jones) Ltd yn cynnig gwasanaethau arwerthiant, prisio, ac asiantaeth tir ac ystadau, gyda sylfaen gref o gleientiaid ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae ein hymrwymiad i ragoriaeth a boddhad cwsmeriaid wedi'n sefydlu fel partner dibynadwy yn y gymuned amaethyddol.

Trosolwg o’r Swydd:  

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a phrofiadol i lenwi rôl Prif Weithredwr a Ysgrifennydd y Cwmni. Bydd y rôl hon yn cyfuno arweinyddiaeth strategol gyda chyfrifoldebau llywodraethu, gan sicrhau twf parhaus a llwyddiant i Farmers Marts (R G Jones). Byddai’r ymgeisydd delfrydol yn arweinydd profiadol gyda cefndir busnes gadarn, yn enwedig o fewn y sector amaethyddiaeth, gwasanaethau proffesiynol, neu wasanaethau cysylltiedig â da byw.

Prif Gyfrifoldebau:

Arweinyddiaeth a Strategaeth:

·         Datblygu a gweithredu cyfeiriad strategol y cwmni a’i nodau tymor hir

·         Arwain y tîm gyda gweledigaeth, gan feithrin diwylliant o ragoriaeth a chydweithrediad

·         Gyrru mentrau datblygu busnes i ehangu’r gwasanaethau a’r sylfaen cleientiaid

Llywodraethu a Chydymffurfiaeth:

·         Gweithredu fel Ysgrifennydd y Cwmni, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol

·         Goruchwylio arferion llywodraethu corfforaethol a chynnal cofnodion cywir o gyfarfodydd a phenderfyniadau

·         Cyfathrebu â chyrff rheoleiddiol a rhanddeiliaid yn ôl yr angen

Rheoli Ariannol:

·         Goruchwylio cynllunio ariannol, cyllidebu ac adrodd i sicrhau iechyd ariannol y sefydliad

·         Dadansoddi data ariannol i nodi tueddiadau a chyfleoedd twf

Cysylltiadau Cleientiaid:

·         Meithrin a chynnal perthnasau cryf gyda chleientiaid, rhanddeiliaid a phartneriaid yn y diwydiant

·         Sicrhau bod gwasanaethau o safon yn cael eu darparu, gan ateb anghenion a gofynion ein cwsmeriaid.

Datblygiad Tîm:

·         Arwain, mentora, a datblygu tîm o berfformiad uchel, gan sicrhau twf proffesiynol parhaus

·         Hybu diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus o fewn y sefydliad

Cymwysterau ac Addasrwydd:

·         Profiad arweinyddiaeth yn y sector amaethyddol neu wasanaethau proffesiynol yn ddymunol

·         Dealltwriaeth gref o arferion arwerthiant, prisio, ac asiantaeth ystadau

·         Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i ysbrydoli a chymell tîm amrywiol

·         Rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol; mae dysgu’r iaith yn ofynnol i’r rheini nad ydynt yn rhugl

Pam Ymuno â Ni?  

Dyma gyfle cyffrous i lunio dyfodol Farmers Marts (R G Jones) Ltd a gwneud effaith sylweddol yn y sector amaethyddol. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol, cyflog cystadleuol, a’r cyfle i arwain tîm ymroddedig sy’n ymrwymedig i ragoriaeth.

Proses Ymgeisio:

Mae croeso i ymgeiswyr anfon eu CV a llythyr eglurhaol yn nodi eu profiad perthnasol a'u gweledigaeth ar gyfer y rôl at swydd@farmersmarts.co.uk. Ceisiadau i'w cyflwyno erbyn 30 Mehefin 2025.

Mae Farmers Marts (R G Jones) Ltd yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i greu amgylchedd cynhwysol i bob gweithiwr.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd disgrifiad/Job specification

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Technegydd Cymorth Systemau Gwybodaeth

Prentis Coetir

Tiwtor Asesydd Gogledd Cymru (hyfforddiant ar gael)